Gostyngiad 'siomedig' yn nifer y siaradwyr Cymraeg

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r data'n rhoi "darlun siomedig," medd y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddaraf am nifer y siaradwyr Cymraeg yn rhoi "darlun siomedig," mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod.

Yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth, mae tua 44,100 yn llai o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu â llynedd.

Hyd at 31 Mawrth eleni roedd 28.0% (862,700) o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl yr arolwg - tua 1.6% yn is na'r un adeg yn 2023.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "y data'n rhoi darlun siomedig" a'u bod yn "cydnabod yr her" o gyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

'Angen dehongli gyda gofal'

Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r Cyfrifiad ydy'r "ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru" ond fod yr arolwg blynyddol yn "ffynhonnell ddefnyddiol".

Yn ôl canfyddiadau diweddaraf yr arolwg, roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.4%, 241,300) nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Dyma rai o ganfyddiadau eraill yr arolwg:

  • Yn Sir Gaerfyrddin (91,700), Gwynedd (91,200) a Chaerdydd (76,100) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (10,000) a Merthyr Tudful (12,500) y mae’r niferoedd isaf;

  • Yng Ngwynedd (76.3%) ac Ynys Môn (59.3%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (14.6%) a Rhondda Cynon Taf (16.4%) y mae’r canrannau isaf;

  • Adroddodd 14.4% (443,800) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.4% (165,500) yn wythnosol a 6.5% (201,200) yn llai aml. Dywedodd 1.7% (51,700) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.0% yn gallu siarad Cymraeg;

  • Dywedodd 32.5% (1,001,500) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.7% (759,200) ddarllen yn Gymraeg a 22.2% (684,500) ysgrifennu’n Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yw'r gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg erbyn hyn, ar ôl ymddiswyddiad Jeremy Miles

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y "gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol" ond mae hefyd yn cynghori y "dylid dehongli'r gostyngiad gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y ddau gyfnod".

Cafodd cyfweliadau wyneb yn wyneb eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, a chafodd yr holl gyfweliadau eu cynnal dros y ffôn.

Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu cyflwyno eto yn ystod tymor yr hydref 2023, sy’n golygu fod y data diweddaraf yn seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau dros y ffôn a rhai wyneb yn wyneb.

Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried y data ochr yn ochr â ffynonellau eraill, gyda’r Cyfrifiad yn parhau i fod yn brif ffynhonnell.

Ond gan fod yr arolwg yn darparu canlyniadau bob tri mis, mae’r llywodraeth o'r farn ei fod yn "ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cynyddu defnydd o'r iaith o fewn y cartref yn rhan bwysig o'r gwaith" i geisio cyrraedd targedau Cymraeg 2050

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd tua 538,300 o'r boblogaeth tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, neu 17.8% o'r boblogaeth.

Dyna oedd y ganran isaf a gafodd ei gofnodi erioed mewn cyfrifiad.

Roedd hyn yn ostyngiad o tua 24,000 ers Cyfrifiad 2011 (neu 1.2% yn is), pan oedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg (neu 19% o'r boblogaeth).

Drwy Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cynyddu canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o'r Gymraeg, o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050 ac i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Cynlluniau cadarn'

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC bod "gennym gynlluniau cadarn ar waith," gan gynnwys:

  • comisiynu ymchwil i ddeall natur y newid iaith sy'n digwydd ar lefel gymunedol;

  • cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg yn gynharach yr wythnos hon;

  • sefydlu comisiwn arbennig i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg;

  • cynyddu trosglwyddiad iaith yn y cartref, ymysg pobl ifanc ac o fewn cymunedau;

  • rhoi gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a'r gweithlu addysg.