Cofnodi'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg ers wyth mlynedd

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd 851,700 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2024, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.

Dyma'r ganran isaf i'w chofnodi ers dros wyth mlynedd, sef 27.7% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 1.6% yn is na'r flwyddyn hyd at 30 Medi 2023, pan amcangyfrifwyd fod 29.2% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i'n nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith."

Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad.

'Pryderus dros ben'

Ymatebodd llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: "Wrth ystyried targedau'r llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae data'r llywodraeth heddiw yn bryderus dros ben."

"Dylai'r newyddion fod yn rhybudd i'n llywodraeth Lafur fod rhywbeth angen newid os ydym am gyflawni uchelgais Cymraeg 2050.

"Mae'r llywodraeth yn dweud fod Cymraeg i bawb, ond mae'r ffigyrau yma yn dangos nad yw hyn yn wir o dan Lafur – ac mae rhaid ni weld hyn yn newid."

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:

  • Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.6%, 237,600) nag unrhyw grŵp oedran arall, ond mae'r ganran yma wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019;

  • Yng Ngwynedd (93,600), Sir Gaerfyrddin (93,300) a Chaerdydd (83,300) y mae'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (9,500) a Merthyr Tudful (10,600) y mae'r niferoedd isaf;

  • Yng Ngwynedd (77.9%) ac Ynys Môn (63.6%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Yn Rhondda Cynon Taf (13.9%) a Blaenau Gwent (14.0%) y mae'r canrannau isaf;

  • Dywedodd 13.9% (428,800) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (171,300) yn wythnosol a 6.7% (204,700) yn llai aml. Dywedodd 1.5% (46,500) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.3% yn gallu siarad Cymraeg;

  • Dywedodd 32.2% (989,300) eu bod yn deall Cymraeg llafar, 24.4% (751,600) yn gallu darllen yn Gymraeg, a 22.1% (680,100) ysgrifennu'n Gymraeg.

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pob math o bethau cymhleth ynghlwm â sut mae pobl yn adnabod eu hunain fel siaradwyr," meddai Efa Gruffudd Jones

Wrth ymateb i'r ffigyrau ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, bod "angen gwell data er mwyn deall lle yn union mae'r Gymraeg ar hyn o bryd".

"Mae'n bwysig i ni edrych ar y pethau cadarnhaol, be' bynnag ydy'r ffigyrau, a'r hyn allen ni 'neud i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y dyfodol," meddai.

Wrth gael ei holi am y gostyngiad yn y ffigyrau, atebodd: "Rydw i am weld ein bod ni'n comisiynu arolygon sy'n edrych yn ddeallus ar yr holl ffigyrau sydd ar gael.

"Mae pob math o bethau cymhleth ynghlwm â sut mae pobl yn adnabod eu hunain fel siaradwyr a sut y'n ni'n mesur hynny."

Beth ydy'r arolwg blynyddol?

Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r cyfrifiad o'r boblogaeth ydy'r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Ond mae'r Arolwg yn ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai'r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 14,881.

Mae'r arolwg wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, mae ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB, a dylid ystyried ffigyrau'r ABB ochr yn ochr â data eraill ar siaradwyr Cymraeg."