Dy Lais, Dy Bleidlais

- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n pleidleisio ar 7 Mai 2026 i ethol 96 o wleidyddion i Senedd fydd â mwy o aelodau. Mae'r BBC yn rhoi cyfle i chi awgrymu straeon yr hoffech i Newyddion BBC Cymru fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.
Beth sy'n wirioneddol bwysig i chi? Pa bwnc a fydd yn dylanwadu ar eich pleidlais? Pa ddigwyddiadau yn eich bywyd y mae angen i wleidyddion posib wybod amdanynt?
Bydd Dy Lais, Dy Bleidlais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.
Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Cliciwch y dolenni yma i ddarllen ein telerau a'n hysbysiad preifatrwydd.
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais