Arestio dyn, 44, ar ôl adroddiadau o saethu

Stryd y Bont, MaestegFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd swyddogion eu hanfon i Stryd y Bont, Maesteg, ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ac mae "arf aer" wedi ei ganfod ar ôl i'r heddlu dderbyn adroddiadau o saethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd swyddogion eu hanfon i Stryd y Bont, Maesteg, ddydd Sadwrn ar ôl cael galwad am 20:40.

Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn feddw ​​ac yn afreolus, ac am rwystro'r heddlu.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod Taser wedi'i ddefnyddio cyn arestio'r dyn.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ac wedi gofyn am unrhyw wybodaeth gan dystion.