Chwilio am ddyn, 39, sydd ar goll ger Moel Famau

Edward Jones yn gadael siop yn Ninbych (chwith) a llun teulu (dde)
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio'n parhau yn y gogledd ddwyrain am ddyn 39 oed sydd ar goll ers wythnos diwethaf.
Cafodd Edward Jones ei weld ddiwethaf yn gadael siop Premier Stores yn Ninbych am tua 10:45 ddydd Gwener, 9 Mai cyn gyrru ar Ffordd Henllan i gyfeiriad Bryn Seion.
Cafodd ei gar ei ganfod yn ddiweddarach ger Moel Famau.
Roedd yn gwisgo sbectol dywyll, crys-T llwyd, trowsus cerdded llwyd tywyll ac esgidiau cynfas du.
Dywedodd y Prif Arolygydd David Cust o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gennym bryder cynyddol am Edward sydd bellach ar goll ers wythnos.
"Mae nifer o asiantaethau yn parhau i chwilio amdano yn ardal Moel Famau a Bryniau Clwyd yn Sir Ddinbych.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a chymorth ac rwy'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Edward i gysylltu â'r heddlu."