Dwy ddynes yn yr ysbyty ar ôl i gar daro polyn lamp

Ffordd CwmFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Cwm yn Llandudno nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl i gar daro polyn lamp.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad yn ymwneud ag un cerbyd ar Ffordd Cwm yn Llandudno am 20:30 nos Sadwrn.

Nid yw'n glir eto pa mor ddifrifol yw'r anafiadau, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig