Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a thractor

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 yn ardal Maenan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i feiciwr modur farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda thractor ar gyrion Llanrwst brynhawn Llun.
Cafodd plismyn eu galw toc cyn 16:00 i'r digwyddiad ar ffordd yr A470 ym Maenan, ger Llanrwst.
Roedd aelodau'r cyhoedd wedi stopio i gynorthwyo gan gynnwys dau barafeddyg nad oedd ar ddyletswydd, ond bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Peter Colley o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.
"Mae'r ymchwiliad i sefydlu achos y gwrthdrawiad ar y gweill ac rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â ni eto, i gysylltu â ni ar unwaith."
Mae'r heddlu hefyd yn annog unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A470 tua amser y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau fideo, i gysylltu â nhw.