Gêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gogledd Macedonia

- Cyhoeddwyd
Wedi diweddglo dramatig, fe gafodd Cymru gêm gyfartal yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 oddi cartref yn erbyn Gogledd Macedonia.
Bu'r tîm yn chwarae o flaen 2,000 o gefnogwyr Cymru yn arena Todor Proeski, Skopje nos Fawrth.
1-1 oedd y sgôr terfynol gyda David Brooks yn sgorio yn y funud olaf.
Roedd tri newid i'r tîm a ddechreuodd yn erbyn Khazakstan nos Sadwrn gyda Chris Mepham, Jordan James a Nathan Broadhead yn hawlio eu lle.

Gydag awyrgylch bywiog ymysg y cefnogwyr dangosodd y ddau dîm eu bwriad i chwarae yn ymosodol o'r funud gyntaf.
Cymru oedd y tîm ar y droed flaen yn gynnar gyda Jordan James yn gwneud ymdrech bwrpasol i rwydo'r bêl.
Wedi cyfnod o'r bêl yn teithio o un pen y cae i'r llall, fe wnaeth Cymru lanast o gic rydd.
Methodd Joe Rodon ag ennill peniad cyn i Nathan Broadhead gicio'r awyr a methu'r bêl yn llwyr.
Fe wnaeth y pwysau gan y tîm cartref barhau ond gydag amddiffyn cryf gan y Cymry, dechreuon nhw i ennill y bêl mewn safleoedd addawol.
Roedd cefnogwyr Gogledd Macedonia yn rhwystredig gyda'u chwaraewyr.
Daeth eu cyfle agosaf wrth i Jordan James a Daniel James gydweithio'n effeithiol i groesi'r bêl ar hyd y bocs.
Roedd Sobra Thomas yno i'w derbyn ond methodd ddod o hyd i gefn y rhwyd gyda'r gôl-geidwad yn rhwystr.
Fe orffennodd yr hanner gyntaf yn ddi-sgôr.

Roedd yna sawl cyfnod pryderus i Craig Bellamy
Fe gafodd Cymru ddechrau dda i'r ail hanner gyda Jordan James eto yn dangos ei bresenoldeb.
Wedi rhediad hyfryd ganddo, aeth ei groesiad ychydig yn rhy bell y tu ôl i Daniel James gan adael i'r tîm cartref rwystro'r bygythiad.
Tyfodd Cymru i mewn i'r ail hanner gan roi amddiffynnwr Gogledd Macedonia o dan bwysau mawr gyda sawl cyfle i sgorio.
Wrth i'r gêm gyrraedd y 59fed munud, fe stopiodd y dyfarnwr y chwarae er mwyn rhoi teyrnged i'r 59 o bobl a gollodd eu bywydau mewn tân clwb nos ar ddechrau mis.
Daeth Kieffer Moore ymlaen yn lle Daniel James a gwneud ei farc yn syth gan ennill y bêl i Gymru mewn safle da.
Fe wnaeth y gêm barhau yn gystadleuol iawn gyda'r ddau dîm yn cael cyfleoedd agos i fynd ar y blaen.
Y tro cyntaf i Darlow gael ei brofi oedd gan saethiad cryf Dark Churlinov.
Roedd llai na 20 munud yn weddill o'r gêm, pan ddaeth David Brooks i'r cae i gymryd lle Nathan Broadhead. Gyda'i gyffyrddiad cyntaf, enillodd gic o'r gornel i'w dîm.
Dechreuodd Gogledd Macedonia edrych yn fygythiol gydag ychydig funudau ar ôl.
Wrth i'r pwysau gynyddu ar Gymru a chamgymeriad gan Joe Allen aeth y tîm cartref ar y blaen yn ystod amser ychwanegol.
Ond daeth eiliad o ffawd gyda David Brooks yn saethu'r bêl i gefn y rhwyd i'w gwneud hi'n 1-1.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl