20 mlynedd ers ymosodiadau Llundain: 'Ni fydd hyn yn ein stopio'

Bu farw 52 o bobl ac fe gafodd dros 700 eu hanafu mewn cyfres o ymosodiadau ar hyd y ddinas
- Cyhoeddwyd
"Rhaid parhau, a bwrw 'mlaen â bywyd gystal a gallwn ni a gobeithio am y gorau - dim ond hynny allwn ni neud," medd un Cymro yn Llundain.
Mae dydd Llun, 7 Gorffennaf yn nodi 20 mlynedd ers yr ymosodiadau terfysgol gan bedwar o hunanfomwyr ar draws Llundain.
Bu farw 52 o bobl ac fe gafodd dros 700 eu hanafu pan ffrwydrodd bomiau yng ngorsafoedd trenau tanddaearol Russell Square, Edgware Road ac Aldgate am tua 08:50, ac yna ar fws deulawr yn Sgwâr Tavistock am 09:47.
Fe arweiniodd yr ymosodiadau brawychus at yr ymchwiliad troseddol mwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
Fe gafodd bywydau pobl ar draws y ddinas eu hysgwyd a'u newid - gyda nifer o Gymry ymhlith y rhai gafodd eu heffeithio.
'Eu hwynebau yn waedlyd'
Roedd Wyn Morgan, o Lanbed yn wreiddiol, yn gweithio mewn banc yn y ddinas ac ar fws yn pasio heibio gorsaf Aldgate pan stopiodd y bws a bu'n rhaid i bawb gychwyn cerdded.
"Ychydig cyn 09:00 oedd hi a rwy'n cofio gweld pobl yn dod allan o'r orsaf, eu hwynebau yn ddu ac yn waedlyd i gyd, a dynion tân yn eu helpu nhw," meddai.
"Yn amlwg ro'n i yn gwybod fod rhywbeth wedi digwydd.
"Ond 'nes i feddwl efallai damwain dau drên 'di mynd mewn i'w gilydd oedd e, neu fod tân wedi digwydd."

Roedd Wyn Morgan yn teithio i'w waith mewn banc yn y ddinas ar fore 7 Gorffennaf 2005
Bu'n rhaid i Mr Morgan gerdded adref, ac ar ôl cyrraedd y tŷ fe wnaeth e sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.
Fe dreuliodd weddill y dydd yn edrych ar y teledu a dilyn y newyddion gyda theimlad o sioc - yn enwedig o weld bod saith o bobl wedi marw yn Aldgate y bore hwnnw, a 171 wedi eu hanafu.
"Roedd e'n siom mawr a thristwch o weld be oedd wedi digwydd, a diolch bo' neb o'n i yn ei 'nabod wedi eu heffeithio.
"'Nes i sylweddoli bo' fi yn pasio Aldgate tua phump neu 10 munud ar ôl i'r bom ffrwydro."

Roedd Wyn Morgan yn ardal gorsaf Aldgate yn fuan wedi'r ymosodiad
Ond er y sioc a'r braw, roedd yn benderfynol o fwrw 'mlaen â'i fywyd yn ddinas.
"Bues i'n gweithio o adref, ac wedyn y noson honno rwy'n cofio mynd mas am gwpwl o beints gyda ffrindie, a'r wythnos wedyn es i weld gêm griced Lloegr yn erbyn Awstralia a miloedd o bobl yn yr Oval," ychwanegodd.
"Roedd lot o blismona a diogelwch o'n cwmpas yn naturiol, ond roedd pawb yn gytûn wrth ddweud na fydd hyn yn ein stopio ni.
"Allwch chi ddim byw eich bywyd yn cwato."
'Diogelwch yw'r peth pwysicaf'
Un arall sy'n cofio diwrnod yr ymosodiadau yw'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Susan Elan Jones.
Roedd yn gweithio i elusen ddigartrefedd ar y pryd ac roedd ei swyddfa hi ger gorsaf drenau Edgware Road, lle cafodd chwech o bobl eu lladd.
Roedd hi adref yn gweithio ar fore'r ymosodiadau, ac yn clywed sŵn seirenau'r gwasanaethau brys ar hyd a lled Lundain.

Mae Susan Elan Jones wedi sylwi ar newidiadau mawr o ran mesurau diogelwch ers yr ymosodiadau
Un newid mawr a welodd hi wedi'r ymosodiadau oedd y mesurau diogelwch arbennig gafodd eu cyflwyno a'r hyn oedd yn ddechrau pennod newydd mewn ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth.
Er ei bod yn cytuno â hyn, mae Ms Jones yn credu fod angen troedio yn ofalus.
"Mae'r ddadl rhwng hawliau sifil a chadw pobl yn ddiogel yn bwysig hyd heddi.
"Dwi'n meddwl fod y cydbwysedd wedi newid, ond yn bersonol dwi'n teimlo mai diogelwch yw'r peth pwysicaf.
"Ond, mae lot o'r mesurau yma yn gymhleth ac mae angen trafodaeth fanwl ac ystyrlon."

Ffrwydradau 7 Gorffennaf yw'r ymosodiad terfysgol gwaethaf ym Mhrydain erioed
Dywed Susan Elan Jones bod pobl ar eu gwyliadwriaeth am gyfnod hir ar ôl y bomio.
"Rwy'n cofio bod ar fws yn Llundain tua phythefnos ar ôl y llanast ac roedd bag siopa ar un sedd.
"Fe weles i bobl yn mynd i siarad â'r gyrrwr a dyma 'na wraig yn bloeddio 'dyna fy mag siopa i!', a dyma gyrrwr y bws yn troi a dweud wrth bawb 'ry' ni 'di neud e o'r blaen pan oedd yr IRA yma, mae'n rhaid i bawb fod yn synhwyrol'."

Roedd Rhian Medi yn gweithio fel rheolwr swyddfa yn San Steffan ar 7 Gorffennaf 2005
Mae ffrwydradau Llundain ar 7/7 yn fyw iawn yng nghof Rhian Medi o Lanfairpwll.
Roedd yn gweithio fel rheolwr swyddfa yn San Steffan i Aelodau Seneddol Plaid Cymru adeg y bomio ac yn teithio i'r gwaith ar y trên.
Daeth y trên i stop yn sydyn a chafodd ei chynghori i chwilio am fws.
Ond yn fuan ar ôl cychwyn unwaith eto ar y siwrne fe gafodd alwad ffôn gan ffrind yn dweud "cer off y bws ar unwaith" ar ôl y ffrwydrad ar fws yn Tavistock Square.
"Mae rhywun yn cael munudau lle 'da chi'n meddwl, 'ydw i yn mynd i oroesi?'" meddai.
"Mae'r ffin weithiau rhwng bywyd a marwolaeth yn dod yn agos iawn, ond, dyw rhywun ddim yn meddwl ddwywaith, ac mae yn rhaid parhau."
Er ei bod hi'n teimlo fod y byd heddiw yn fwy ansicr nag oedd e 20 mlynedd yn ôl a bod dal cwestiynau i'w hateb am ddigwyddiadau 7/7 2005, mae'n dweud bod "rhaid parhau, a bwrw 'mlaen â bywyd gystal â gallwn ni a gobeithio am y gorau, dim ond hynny allwn ni neud".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.