Dyn o Wrecsam wedi'i ladd gan daflegryn yn Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o ardal Wrecsam a oedd yn gweithio i dîm newyddion Reuters yn Wcráin wedi marw ar ôl i daflegryn daro'i westy ddydd Sadwrn.
Roedd Ryan Evans, 38, yn un o chwech o weithwyr Reuters oedd yn aros yng ngwesty'r Sapphire yn ninas Kramatorsk - sydd dan reolaeth Wcráin ond yn agos at y brwydro.
Dywedodd ei wraig y bydd yn cael ei golli'n fawr gan ei deulu, gan gynnwys ei bedwar o blant - y ieuengaf ond yn 18 mis oed.
Ychwanegodd pennaeth Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, lle bu’n ddisgybl, ei fod yn "berson hoffus tu hwnt gyda chalon fawr".
Dywedodd awdurdodau Wcráin fod y gwesty wedi ei daro gan daflegryn Rwsiaidd. Nid yw Rwsia wedi gwneud sylw.
'Rhoi pobl eraill yn gyntaf'
Dywedodd ei wraig, Anne Evans, ar Facebook: "Fo oedd fy ffrind gorau, fy enaid hoff gytûn, fy mhopeth," meddai
"Os oedd unrhyw un angen unrhyw beth, roedd o yno - roedd o wastad yn rhoi pobl eraill yn gyntaf a'i hun yn ail."
Ychwanegodd Catrin Pritchard, pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: "Ar ran cymuned gyfan yr ysgol, estynnaf fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant i deulu a ffrindiau Ryan.
"Er bod Ryan wedi gadael Ysgol Morgan Llwyd, mae sawl aelod o'r staff yn dal i'w gofio'n annwyl gan ei ddisgrifio fel person hoffus tu hwnt gyda chalon fawr."
Fe wnaeth Ryan Evans ymuno â'r fyddin, a chatrawd y Cymry Brenhinol, ar ôl gadael Ysgol Morgan Llwyd.
Bu'n gwasanaethu yn Irac ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn gorporal.
Ar ôl gadael y fyddin bu'n gweithio fel arbenigwr diogelwch, yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr a gweithwyr cymorth mewn ardaloedd peryglus.
Dywedodd cyfaill iddo, Chris Hunter, sy'n arbenigwr ar ddiffodd bomiau, fod Ryan Evans yn "foi hyfryd - cadarn a chaled, ond yn garedig a doniol".
"Roedd o wir yn poeni am y rheiny o'i gwmpas, ac roedd eisiau gwneud y byd yn le mwy diogel."
Dywedodd llefarydd ar ran Reuters: “Rydyn ni'n chwilio am fwy o wybodaeth ar frys am yr ymosodiad, gan gynnwys trwy weithio gyda’r awdurdodau yn Kramatorsk, ac rydyn ni’n cefnogi ein cydweithwyr a’u teuluoedd,” meddai llefarydd.
“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad a’n meddyliau dyfnaf at deulu ac anwyliaid Ryan.
"Mae Ryan wedi helpu cymaint o’n newyddiadurwyr i roi sylw i ddigwyddiadau ledled y byd; byddwn yn ei golli’n ofnadwy.”
Ychwanegodd fod dau aelod arall o'r tîm wedi bod yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad a bod un ohonyn nhw'n cael triniaeth am anafiadau difrifol.
Zelensky yn cydymdeimlo
Dywedodd Heddlu Cenedlaethol Wcráin yn gynharach fod corff dyn o Brydain wedi’i ganfod yn rwbel y gwesty am 18:35 amser lleol (16:35 BST) ddydd Sul ar ôl bod yn chwilio am 19 awr.
Anfonodd arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky ei “gydymdeimlad at deulu a ffrindiau” Ryan Evans.
“Dyma’r braw dyddiol parhaus gan Rwsia,” meddai.
Dywedodd Swyddfa Erlynydd Cyffredinol Wcráin mewn datganiad ei bod yn debygol bod y gwesty wedi’i daro gan daflegryn Iskander-M.
Dim ond tua 12 milltir yw Kramatosk o rannau o Wcráin sydd wedi’u meddiannu gan Rwsia, ac mae wedi dod o dan ymosodiadau rheolaidd, gyda phobl gyffredin yn cael eu lladd, gan gynnwys yr awdur o Wcráin, Victoria Amelina.
Mae milwyr Rwsia wedi bod yn gwneud datblygiadau araf ond cyson yn y dwyrain yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ymosodiad diweddar Wcráin i Rwsia yn cael ei weld fel ymgais i dynnu milwyr o'r frwydr yn y dwyrain.