Pam bod Ysgol Glantaf yn cefnu ar wefan gymdeithasol X?
- Cyhoeddwyd
Ysgol Glantaf yw’r diweddaraf i gyhoeddi y byddan nhw’n dod â’u cyfrif ar lwyfan cymdeithasol X i ben, gyda’r pennaeth yn argyhoeddedig y bydd ysgolion eraill yn dilyn.
Mewn datganiad ar X, maen nhw’n dweud y "bydd y cyfri hwn yn cau ar ddiwedd Hydref 2024 gan nad yw’r llwyfan hon yn adlewyrchu gwerthoedd Glantaf".
“Ni fydd Ysgol Glantaf yn rhannu gweithgaredd ar lwyfan X bellach ac rydym wedi symud ein cyfri' i Instagram."
Dywedodd y pennaeth, Matthew H T Evans wrth Cymru Fyw ei fod yn poeni am y "celwyddau" ar y gwasanaeth.
Mae gwefan X wedi cael cais am sylw.
“Mae’r negeseuon sydd wedi ymddangos ar y llwyfan dros yr haf yn benodol wedi peri syndod, dweud y gwir," meddai.
"Yn ystod y terfysgoedd casineb yn yr haf, roedden ni'n gallu gweld pobl ifanc a phlant ar y strydoedd 'na 'di cael eu tynnu i mewn i’r celwyddau a’r hiliaeth oedd yn digwydd, ac roedd hynny’n peri pryder.
"A hyd yn oed ar lif yr ysgol ei hun, roeddech chi’n gweld sylwadau oedd yn 'neud chi deimlo’n anghysurus ynglŷn â'r hiliaeth glir oedd yn digwydd ar y llwyfan.
"Ers i ni ddychwelyd ym mis Medi, mae hwnna wedi ei adlewyrchu mewn sgyrsiau gyda staff a gyda rhieni sy’n teimlo’n anghysurus am y peth, ac wedyn, y penderfyniad gan y llywodraethwyr i symud i ffwrdd o’r llwyfan."
'Camwybodaeth wedi esgor ar drais'
Mae Mr Evans yn poeni am y camwybodaeth a’r casineb sy’n cael ei rannu ar y wefan heb unrhyw wirio a chosbi.
"Ni’n gwybod, wrth gwrs, bod llwyfannau eraill efo’r un un math o broblemau ond rydyn ni’n gweld bod llwyfan fel X heb gael unrhyw fath o derfynau ynglŷn â'r sylwadau oedd yn cael eu caniatáu, a’r negeseuon hiliol, llawn casineb, deud y gwir.
"Mae terfysgoedd yr haf yn dangos yn union bod camwybodaeth wedi esgor ar drais ac ar gasineb difrifol iawn yn ein dinasoedd ni; dim ond gwyrth nad oedd o wedi digwydd yng Nghaerdydd.
"Mae’n rhaid i bobl dda sefyll i fyny a dweud 'dydy'r pethau 'ma ddim yn gywir', a mae'n rhaid hefyd dangos bod gwybodaeth gywir, a bod deall beth yw gwybodaeth gywir yn rhan o waith addysgu a mae hynny’n mynd yn gynyddol anoddach."
Mae sawl unigolyn a sefydliad wedi codi pryderon am ledaeniad camwybodaeth ac nad oes cymaint o ddefnyddwyr yn gweld cynnwys Cymraeg ar X ers yr ail-frandio.
Ym mis Awst, fe gyhoeddodd Heddlu'r Gogledd y byddan nhw'n dod â'u cyfrif i ben gan ddweud nad yw negeseuon yn cyrraedd cymunedau Cymraeg fel o'r blaen.
Fe ddaw hyn ar ôl i’r biliwnydd Elon Musk brynu’r cwmni y llynedd.
Yn ôl X, mae 250 miliwn o bobl yn defnyddio'r platfform yn ddyddiol.
Ond mae sawl sefydliad ac unigolion, gan gynnwys Aelodau Seneddol, yn gadael X oherwydd camwybodaeth.
Mae llawer o gwyno bod X yn lledaenu casineb a gwybodaeth ffug, ac yn rhoi mwy o rwydd hynt i’r asgell dde i ddweud fel y mynnon nhw.
Mae cyfrifon gan bobl fel Stephen Yaxley-Lennon (Tommy Robinson), Katie Hopkins ac Andrew Tate - oedd wedi cael eu gwahardd gan Twitter am ledaenu casineb a chamwybodaeth- wedi cael dychwelyd ar X.
Ysgolion eraill yn cefnu ar X
Yn ôl pennaeth Ysgol Glantaf mae ysgolion eraill yn ystyried cefnu ar eu cyfrifon hwythau, neu wedi gwneud eisoes.
“Mae nifer fawr o ysgolion wedi teimlo’n anghysurus ac yn symud i ffwrdd," meddai Matthew Evans.
"Falle bod nhw heb wneud datganiad cweit mor glir, ond ein syniad ni, ein meddylfryd ni, oedd bod angen i blant a phobl ifanc wybod bod ysgol yn gallu gwneud a dweud 'chi’n gwbod be, dydy hyn ddim yn iawn' a symud i ffwrdd.
“Dwi’n sicr, o ran ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae nifer fawr fawr ohonyn nhw - os nad pob un ohonyn nhw - yn ystyried neu’n symud i ffwrdd o’r llwyfan.
"Mae pob un o’n hysgolion clwstwr ni wedi symud neu yn symud yn dawel bach ac mi fyddwn ni’n gweld hynny yn llif cyson nawr dros y misoedd nesaf."
Mae hefyd yn teimlo bod dyletswydd ar sefydliadau eraill ystyried yn yr un modd.
“Fy nheimlad i ydy, mae gynnoch chi nifer fawr o sefydliadau sydd ar y llwyfan – Estyn, Llywodraeth Cymru, cynghorau sir – a dwi’n meddwl bod 'na gwestiwn wedyn iddyn nhw’i gyd hefyd pa mor hir maen nhw’n mynd i barhau ar y llwyfan yma?"
Mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi cyhoeddi, ym mis Awst, y byddan nhw'n dod â'u cyfrif i ben.
Yn ôl prif gwnstabl y llu, maen nhw'n dileu eu cyfrif ar X oherwydd “gwerthoedd” y platfform a lledaeniad camwybodaeth.
"Mae'n debyg nad yw'n rhannu'r un gwerthoedd â ni fel sefydliad ac rwy'n poeni nad yw weithiau'n portreadu'r wybodaeth gywir i'n cymunedau,” meddai Amanda Blakeman.
"Yn ogystal, mae'n debyg nad yw’n cyrraedd ein cymunedau Cymraeg mor rhwydd ag y mae pobl eraill ac rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i ni.
"Mae angen i ni fel gwasanaeth allu cyfathrebu yn gyflym, ac yn hawdd gyda'n cymuned i'w diweddaru, i roi gwybodaeth, ac i ateb cwestiynau, ond mae'r platfform hwnnw wedi dod yn le mwy heriol i wneud hynny yn y misoedd a blynyddoedd diwethaf."
Gwefannau cymdeithasol ddim yn addas?
Roedd Ysgol Glantaf yn defnyddio X i rannu a dathlu llwyddiannau’r ysgol, ond fe fyddan nhw’n symud i ddefnyddio Instagram am y tro.
Yn ôl y pennaeth: “Ni‘n mynd i adolygu fe.
"Dwi ddim yn siwr os mai Instagram ydy’r llwyfan cywir ac yn y pendraw efallai bydd rhaid i ni ystyried nad ydy llwyfannau cymdeithasol yn addas i ysgolion i gyfathrebu arno fo a bod hynny yn dod â chyfnod i ben efallai."
Mae’r ysgol wedi derbyn ymateb cymysg gan rieni, ond dywedodd Matthew Evans fod y mwyafrif o blaid eu penderfyniad.
"Y realiti yw, mae 'na nifer o sylwadau ryden ni wedi’i derbyn, y rhan fwyaf wrth gwrs yn cytuno â’r ysgol, ond wedyn mae ganddoch chi hefyd bobl sy‘n ymateb yn chwyrn iawn i’r busnes ynglyn â rhyddid barn a rhyddid gwybodaeth.
"O’n rhan ni, nid mater o ryddid barn oedd hyn. Mae negeseuon o gasineb a hiliaeth yn fater arall.
"Mae’r ysgol hon yn gorfod dangos i’w pobl ifanc bod 'na weithiau bethau chi ddim yn cytuno efo nhw a bod rhaid i ni addysgu’n plant bod gennych chi ddewis ynglyn â’r pethe 'ma."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cadw'r sianeli rydyn ni'n eu defnyddio i gyfathrebu dan adolygiad yn barhaol.
"Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd am reoli X yn ystod y misoedd diwethaf, ond credwn ei bod yn bwysig i barhau i ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl a darparu gwybodaeth glir a dibynadwy."
Mae Estyn hefyd yn dweud eu bod nhw'n adolygu eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn gyson, ac mae monitro eu defnydd o wefan X yn rhan o'r broses honno.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst