Pêl-droediwr wedi'i anafu ar ôl ymosodiad gyda bat
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr pêl-droed yn derbyn triniaeth ar ôl torri padell ei ben-glin yn ystod digwyddiad treisgar ar ôl gêm yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Cafodd Joel Collins, golwr Avenue Hotspur, ei anafu yn dilyn gêm yn erbyn Llanrumney Athletic ddydd Sadwrn.
Mae pobl oedd yn y gêm wedi dweud wrth BBC Cymru fod grŵp wedi ymosod ar rai o chwaraewyr Avenue Hotspur gyda batiau pêl-fas, seddi beic ac arfau eraill.
Dywedodd Llanrumney Athletic eu bod yn “condemnio gweithredoedd yr unigolion oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn”, ac yn credu nad oedd eu chwaraewyr na’u staff nhw yn rhan ohono.
Yn ôl ap Cymru Football, cafodd tri cerdyn coch a dau gerdyn melyn eu dangos gan y dyfarnwr yn dilyn y chwiban olaf.
Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i “anhrefn dreisgar” a ddigwyddodd yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, ac yn apelio am dystion.
Mae Joel Collins, 32, nawr yn yr ysbyty yn disgwyl llawdriniaeth, ac mae’n debyg ei fod mewn “hwyliau da” bellach.
Fe wnaeth Avenue Hotspur ddiolch i’r rheiny sydd eisoes wedi rhoi arian mewn ymateb i apêl ar ran Joel, yn dilyn pryderon na fydd yn gallu gweithio am bedwar mis.
Dywedodd llefarydd ar ran Avenue Hotspur: “Mae hwn yn ddigwyddiad brawychus, ble bu ymosodiad treisgar ar sawl chwaraewr wrth iddyn nhw adael yr ystafell newid.
"Mae’n hollol annerbyniol ac roedd yn brofiad hynod o ofidus a dychrynllyd i bawb oedd yn rhan ohono.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned bêl-droed ehangach yng Nghymru am eu negeseuon o gysur a chefnogaeth.”
Ychwanegodd y clwb: “Fel clwb pêl-droed cymunedol teuluol yn ardal Trelái, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd hwyliog, saff a chynhwysol i bawb, ac yn gobeithio dychwelyd i chwarae dros yr wythnosau nesaf.”
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
Mewn datganiad ar dudalen X y clwb, dywedodd Llanrumney Athletic eu bod yn “dymuno gwellhad buan i unrhyw un gafodd eu hanafu yn y digwyddiad”, a’u bod yn cydweithio gyda’r awdurdodau.
“Rydym ni’n condemnio gweithredoedd yr unigolion oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn yn gryf,” meddai'r clwb.
“Cyn belled ag y mae’r clwb yn ei wybod, doedd dim chwaraewyr na staff hyfforddi yn rhan o’r digwyddiad yma ac os oes gwybodaeth yn dod i law i wrthddweud hyn, byddwn yn delio gyda nhw yn y man.”
'Anaf all newid ei fywyd'
Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i “ddigwyddiad o anhrefn dreisgar” yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrhymni am 16:00 ddydd Sadwrn.
“Digwyddodd y cythrwfl yn dilyn gêm bêl-droed, ac roedd yn cynnwys grŵp o unigolion gyda rhai ohonynt yn cael eu disgrifio gydag arfau ac yn gorchuddio eu hwynebau,” meddai’r llu.
“Roedd sawl ymosodiad, gan gynnwys un ar ddyn 32 oed o Drelái a ddioddefodd anaf all newid ei fywyd, ac roedd difrod i gerbyd.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Daniel Todd fod lefel y trais yn “warthus a fyddwn ni ddim yn goddef hynny”.
“Mae’r digwyddiad hwn wedi syfrdanu'r gymuned, ac mae'n rhaid ei fod wedi bod yn frawychus iawn i bawb oedd yn rhan ohono.
“Rydyn ym ddiolchgar am y wybodaeth rydyn ni wedi ei dderbyn hyd yma, a byddwn ni'n annog unrhyw dystion i’r digwyddiad i gysylltu.”
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed De Cymru eu bod mewn cyswllt gyda'r clybiau, y dyfarnwr, y gynghrair a'r heddlu ynglŷn â'r mater.