Pryder fod trais ar gynnydd ymysg cefnogwyr pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Fflint v Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cefnogwr ei hedfan i'r ysbyty wedi gwrthdaro rhwng cefnogwyr mewn gêm rhwng Y Fflint a Chaernarfon

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod cyfnodau clo'r pandemig wedi arwain at "lawer o broblemau" o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gemau pêl-droed.

Daw'r sylwadau wrth i ffigyrau ddangos bod y nifer sy'n cael eu harestio mewn cysylltiad â chreu trafferth mewn gemau pêl-droed ar gynnydd.

Bythefnos yn ôl cafodd gêm rhwng Y Fflint a Chaernarfon ei gohirio ar ôl 16 munud oherwydd gwrthdaro rhwng cefnogwyr.

Cafodd tri pherson eu harestio a chafodd un cefnogwr ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.

Nos Fercher roedd Y Fflint a Chaernarfon yn wynebu ei gilydd eto ond mewn stadiwm heb gefnogwyr.

Dyfarnwyr yn poeni

Mae sawl esiampl arall wedi bod yn ddiweddar o ymddygiad bygythiol a threisgar mewn gemau pêl-droed, yn ôl un dyfarnwr cynorthwyol, sy'n dweud bod dyfarnwyr yn pryderu dros eu diogelwch.

Mae Rheinallt Davies yn dweud nad yw wedi profi "trais amlwg", ond ei fod wedi bod "mewn sefyllfa lle ti'n newid yn gynt ar ôl y gêm, i ti gael jyst pacio bag a mynd".

Disgrifiad o’r llun,

"Dylai neb fod yn poeni am ei fywyd neu ei ddiogelwch. Ti'n mynd yna jyst i wneud joban o waith," medd Rheinallt Davies

"Neu weithia ti'n newid bach yn arafach, rhyw bum munud ar ôl ti fod yn gadael, achos mae 'na ryw atmosffer annifyr," meddai.

"Dwi'n aelod o grŵp WhatsApp dyfarnwyr ac mae 'na ryw ddigwyddiad lle mae rhywun wedi cael profiad annifyr - mae rhywun yn rhoi hynny o hyd, bron iawn bob wythnos.

"'Di o ddim yn neis i ddarllen achos 'di o ddim yn rhan o'r gêm.

"Dwi wedi cael un profiad lle wnaeth chwaraewr really dod i fy ngwyneb i. Dydy o ddim yn neis, ti'n gorfod jyst cadw dy cool."

'Dylai neb fod yn poeni am ei ddiogelwch'

Yn ôl Mr Davies, mae wedi clywed profiadau dychrynllyd, lle cafodd un o'i gyd-ddyfarnwyr rhywun yn "ei ddilyn oddi ar y cae".

"Dilyn rhywun i fewn i'r dressing room... a wedyn disgwyl amdano fo ar ôl iddo fo newid a dilyn fo fyny'r lôn, bron iawn i'r car," meddai.

"Dylai neb fod yn poeni am ei fywyd neu ei ddiogelwch. Ti'n mynd yna jyst i wneud joban o waith."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cwnstabl Dave Evans fod troseddau pêl-droed yn "broblem genedlaethol, nid dim ond yng ngogledd Cymru"

Ers cyrraedd uchafbwynt yn 2010, roedd y nifer oedd yn cael eu harestio mewn cysylltiad â chreu trafferth mewn gemau pêl-droed yng Nghymru a Lloegr yn gostwng - o 3,089 yn ystod tymor 2010/2011 i 1,381 yn 2018/2019.

Ond mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers i'r torfeydd ddychwelyd ar ôl cyfnodau clo Covid-19.

Y tymor diwethaf cafodd 2,198 o bobl eu harestio am droseddau yn gysylltiedig â phêl-droed - 59% o gynnydd o'i gymharu â'r tymor diwethaf heb gyfyngiadau Covid.

'Mae hi'n dal yn ddiogel iawn'

"Yr hyn sydd wedi digwydd ers i gefnogwyr ddod yn ôl yw bod pobl wedi cael eu cloi i ffwrdd ers cwpl o flynyddoedd a 'dan ni wedi gweld pobl yn dod yn ôl," meddai'r Cwnstabl Dave Evans, sy'n swyddog pêl-droed Heddlu'r Gogledd.

"Yn anffodus mae wedi dod â llawer o broblemau, lefel isel o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"'Dan ni'n gweld troseddau pêl-droed penodol yn dod i mewn, sy'n broblem genedlaethol, nid dim ond yng ngogledd Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymddygiad cefnogwyr yn y gêm rhwng Wrecsam a Yeovil nos Fawrth yn enghraifft o'r hyn ddylai ddigwydd, yn ôl y Cwnstabl Dave Evans

Ychwanegodd: "Fyddwn i'n dal i ddweud ei bod hi'n ddiogel iawn dod i wylio gêm bêl-droed yng ngogledd Cymru.

"Er enghraifft yn Wrecsam, 'dan ni'n plismona 10,000 o bobl ym mhob gêm. Roedd neithiwr [nos Fawrth] yn gêm proffil uchel iawn, a doedd dim un digwyddiad yn y gêm gyfan.

"Yr hyn 'dan ni wedi'i weld ydy cynnydd yn nifer y bobl iau sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Dwi'n gofyn i rieni, 'ydych chi'n gwybod gyda phwy mae'ch plant yn mynd i'r gêm? Ydych chi'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud? Beth maen nhw'n ei wneud cyn ac ar ôl y gêm?

"Felly fyddwn i'n gofyn i rieni edrych ar hynny."