John Ogwen a Maureen Rhys yn 80: Dathliad o fywyd a gyrfa
- Cyhoeddwyd
“Dwi isho mentro a ’di o ddim ots gen i fethu. Os chi’n mentro a methu, o leia’ chi wedi cael go arni. Dyna oedd o i mi.”
Dyma eiriau yr actores Maureen Rhys wrth iddi hel atgofion am fywyd a gyrfa hi a’i gŵr John Ogwen wrth i’r ddau ddathlu eu penblwyddi yn 80 oed eleni.
Mae’r ddau wedi bod ar ein llwyfannau ac ar ein sgriniau teledu ers canol y 1960au.
Ar ôl cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor a phriodi yn 1966, mae’r pâr wedi gweithio gyda’i gilydd droeon gan serennu mewn nifer o ddramâu a ffilmiau teledu Cymraeg, gan gynnwys Lleifior ac Y Tŵr.
Wrth baratoi am ddigwyddiad arbennig i ddathlu eu cyfraniad i ddarlledu gan Archif Darlledu Cymru ym mis Medi 2024 bu’r gŵr a’r wraig yn hel atgofion gyda Cymru Fyw am uchafbwyntiau eu gyrfa a’r profiad o weithio gyda’i gilydd.
Y dramodydd Gwenlyn Parry ddaeth a’r ddau ynghyd i berfformio yn Y Tŵr, fel mae John yn esbonio: “Gwenlyn Parry gafodd y syniad o ddod a ni at ein gilydd fel actorion.
“Roedd wedi derbyn comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 i sgrifennu drama newydd. Flwyddyn union ynghynt, dros swper yn Theatr Clwyd, mi ddywedodd wrthym bod ganddo syniad am ddrama hir i ddau gymeriad, yn mynd a nhw o ieuenctid, trwy ganol oed, i henaint.
“Oedd gynno ni, tybad, ddiddordeb? Wel, oedd, Mr Parry!
“A dyna ddechrau ar gyfnod hir o berfformio dramâu – a channoedd o nosweithiau i gymdeithasau ledled gwlad – gyda'n gilydd.”
Gwaith arbrofol
Roedd y ddau ohonynt eisiau torri tir newydd fel actorion, yn ôl Maureen: “Oeddan ni isho gwneud pethau arbrofol ac mae’n rhaid bod y cyfarwyddwyr o’r un anian. Oeddan ni isho pwshio mlaen mewn ffordd ac oeddan ni wedi cael gwneud pethau arbrofol yn y coleg efo John Gwilym Jones.”
Ac mi oedd cynhyrchiad Y Tŵr wedi agor nifer o ddrysau gan arwain at gytundeb i’r ddau gan S4C i serennu mewn pedair drama deledu wrth i S4C ddechrau.
Meddai Maureen: “Mi ddoth o’n naturiol – mi oedd o’n dilyn Y Tŵr ar y llwyfan ac oedd S4C yn dechrau. Dyw rhywun ddim yn sylweddoli pa mor anodd oedd hi i S4C ar y pryd... mi oedd ’na elynion, roedd rhaid bod yn wyliadwrus beth oeddan nhw’n wneud.”
Roedd rhai o’r dramâu’n rhy feiddgar i’r orsaf yn ei dyddiau cynnar, yn ôl Maureen, felly heb eu cynhyrchu.
Dywedodd John: “Yn wreiddiol y bwriad oedd pedair drama dim ond i ni ein dau ond lot gormod o bwdin fyddai hynny! A dyma gael pedair drama cwbl wahanol, gan bedwar awdur gwahanol, gyda nifer o actorion eraill hefyd.”
Uchafbwyntiau
Mae’r ddau yn gytûn mai un o uchafbwyntiau eu gwaith gyda’i gilydd yw Tywyll Heno gan Kate Roberts.
Meddai Maureen: “Mae gynno fi uchafbwyntiau o ran gwaith teledu a llwyfan ond mae’n debyg fuasai John a fi’n dweud Tywyll Heno. Oedd bob dim wedi dod at ei gilydd yn hwnna.”
Ac mae John yn cytuno: “Mae miloedd dros y blynyddoedd wedi sôn am Y Tŵr wrth gwrs. Oedd hi'n ddrama i bob oed. Rydach chi rywle ar y grisia 'na bob adeg o'ch oes.
"Ond y cynhyrchiad rydw i'n bersonol fwyaf balch ohono yw'r addasiad ffilm o Tywyll Heno gan Kate Roberts. Fe ddaeth popeth at ei gilydd mor berffaith â phosib yn y cynhyrchiad hwnnw. Y caniatâd i addasu gan Dr Kate, y cyfarwyddo (David Lyn), yr actio (Maureen fel 'Bet'), y llythyrau arbennig gafwyd yn dilyn y telediad.”
Roedd y gyfres deledu Lleifior hefyd yn uchafbwynt i Maureen, meddai: “Pan o’n i’n ifanc pan oedd Yn ôl i Leifior allan ges i ’newis i chwarae Marged ac wedyn 30 mlynedd yn ddiweddarach ges i chwarae Greta.
"Y ddau ar y teledu – mae hwnna’n un o fy uchafbwyntiau. Dim lot sy’n cael siawns i wneud hynny."
Gweithio gyda chymar
Wedi gweithio gyda’i gilydd ar lwyfan ac ar sgrin, mae gan y ddau gyngor i unrhyw gyplau sy’n perfformio gyda’i gilydd.
Dywedodd John: “Byddwn yn sicr yn argymell unrhyw gwpwl o actorion fydda'n mentro gweithio efo'i gilydd i adael y gwaith a'r geiriau yn yr ystafell ymarfer. Byth i fynd a'r gwaith adref.
“Byddwn yn awgrymu hefyd cael cynhyrchydd, neu gyfarwyddwr, cryf. A bod yn barod i sefyll o'r neilltu pan oedd y cymar yn cael 'nodiadau', boed y rheiny yn gam neu'n gymwys yn eich golwg!”
Mae Maureen yn gytûn: “Yr unig beth ’da ni ddim wedi ’neud yw ’neud llinellau adra. O’n ni’n daer ddim isho hwnna.
“Dwi’n meddwl fod bywyd bob dydd a bywyd ffantasi yn ddau beth hollol wahanol."
Mae Maureen yn chwerthin wrth gofio un tro pan oedd hi'n cael trafferth gyda rôl: "Roedd John a fi’n neud drama Alffa Beta ar y llwyfan, dim ond y ddau ohono ni.
"Dydw i ddim yn berson emosiynol ond mi aeth o i ffwrdd efo fi – oedd hi’n ddrama feiddgar ac o’n i’n methu glir a chael y cymeriad ac mi wnes i ddechrau crio mewn rhwystredigaeth. Dyma John yn cerdded i ffwrdd!”
Cofio
Felly sut brofiad ydy o wedi bod i’r ddau i edrych dros eu archif wrth baratoi am y digwyddiad gan Archif Ddarlledu Cymru?
Meddai John: “Rhyfedd fel mae 80 yn swnio gymaint hŷn na 79! Dwi'n hynod o falch a diolchgar i'r Llyfrgell Genedlaethol am roi'r cyfle i ni ymuno â'i archif. Bu'n gyfle i edrych yn ôl dros bron 60 mlynedd o waith. Bydd yn archif i'r teulu yn ogystal â'r cyhoedd.
“Do, bu'n emosiynol a chwerwfelys ar brydia'. Mae cymaint o gydweithwyr, ffrindiau, wedi'n gadael. Bu sawl gwên ar yr wyneb hefyd. Cofio cymaint o droeon trwstan, cymaint o chwerthin. Ro'n i'n mwynhau ’ngwaith ac yn dal i wneud.”
Meddai Maureen: “Chwerwfelys yw e yn enwedig pan chi’n sbio a tyrchu i archif bach ni – rhai o’r lluniau yma! Dwi'n meddwl, fi 'di honna?
"Mae rhywun yn dychryn o’i hun mewn rhyw ffordd, gymaint sy wedi ei ’neud yn y gorffennol.”
Ychwanegodd John: "Rwan fy mod i'n 80 dw i'n hynod falch i ddechra' mod i'n dal yn fyw!
"A mod i, dros y blynyddoedd, wedi cael y cyfle i wneud cymaint o bethau gwahanol ac wedi cael cymaint o rannau da i'w gwneud a chael cynulleidfa i'w mwynhau.
"Dwi'n cael cymaint o fwynhad o wrando a gwylio ac a ges i o'u gwneud."
Nos Iau 26 Medi bydd Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... John Ogwen a Maureen Rhys gyda cyflwynydd sioe gelfyddydol BBC Radio Cymru, Ffion Dafis, yn sgwrsio gyda'r ddau. Mae tocynnau am ddim.
Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ar gyfer pennod Nadolig arbennig o sioe gelfyddydol Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2015