Taith prawf prostad i 'achub bywyd ac osgoi embaras'

Mae Chris Jones yn cael profion PSA yn flynyddol ers ei ddiagnosis
- Cyhoeddwyd
Fe allai ymgyrch sydd â'r nod o brofi miloedd o ddynion ar draws Cymru am arwyddion o ganser y prostad achub bywydau ac osgoi embaras, yn ôl elusen.
Mae Prostate Cymru yn dweud bod dynion yn wynebu trafferthion wrth gael prawf PSA gan eu meddyg teulu, a rhai yn cael eu gwrthod.
Mae'r elusen yn dweud fod y galw am y prawf gwaed ar gynnydd, wrth i ymwybyddiaeth godi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad y prawf penodol bob amser yw'r opsiwn cywir i ddynion heb symptomau canser y prostad.
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
Cafodd digwyddiad cyntaf y daith ei gynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sul.
Un o'r rhai oedd yno oedd llysgennad yr elusen a chyn-gyflwynydd tywydd S4C Chris Jones, a gafodd ddiagnosis o gamau cynnar canser y prostad yn 2018.
"Mae hi mor, mor bwysig i fynd am brawf PSA yn gynnar. Mae mor rhwydd," meddai.
"Mae'r ymgyrch yma'n mynd â'r prawf i'r dyn, yn lle bod yn rhaid i'r dyn fynd i'r doctor, a bod ag embaras neu gywilydd.
"Fe allai hyn achub bywydau, mae mor syml â 'na."

Yn ôl y nyrs, Amy Griffiths, mae'r prawf gwaed yn hawdd a chyflym
Cafodd cynllun peilot ei gynnal fis Ebrill y llynedd a dywedodd yr elusen bod 200 o ddynion wedi cael eu profi, ac 18 angen ymchwiliad pellach.
Yn eu plith roedd Martin Lewis, a ddywedodd fod y prawf yn "un o benderfyniadau pwysicaf" ei fywyd.
"Fel llawer o ddynion, doedd gen i ddim symptomau a fyddwn i ddim wedi meddwl cael prawf," meddai Mr Lewis.
Mae bellach yn cael triniaeth ac yn annog dynion eraill i gael y prawf.
Dywedodd y nyrs Amy Griffiths fod y broses yn syml.
Ychwanegodd: "Ychydig eiliadau mae'n ei gymryd. Ry'n ni'n tynnu un sampl o waed, mae'n cael ei anfon i'r labordy, ac mae'r canlyniadau'n ôl o fewn rhai dyddiau."
Beth yw prawf PSA?
Mae'r prawf gwaed yn mesur lefel y protein PSA, sy'n cael ei gynhyrchu gan y chwarren brostad, a all helpu i ganfod canser y prostad yn gynnar.
Os oes lefel PSA uwch yn cael ei ddarganfod, mae'n bosib cael cynnnig sgan MRI i ddynion i'w helpu i benderfynu a oes angen profion neu driniaeth bellach.
Ond dywedodd GIG Cymru y gall canlyniadau fod yn annibynadwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yna ganllawiau cenedlaethol i gefnogi meddygon teulu i gael trafodaethau gyda dynion sydd heb symptomau ond sy'n poeni am eu risg.

Andy Thomas yw cadeirydd elusen Prostad Cymru a dywedodd fod y galw am y prawf yn uchel gan fod ymwybyddiaeth wedi gwella
Ond mae heriau wedi wynebu nifer sy'n ceisio cael prawf drwy'r meddyg teulu, yn ôl Tina Tew o Prostate Cymru.
"Rydyn ni'n clywed yn gyson am ddynion sydd wedi cael trafferth cael apwyntiad gyda'r meddyg teulu, ac mewn rhai achosion yn cael gwrthod prawf," meddai.
"Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthon ni os y bydden ni'n gallu ei gwneud hi'n haws i ddynion gael eu profi, byddai mwy o ddynion yn croesawu prawf."
Mae gan Prostate Cymru saith digwyddiad profi dros yr wythnosau nesaf yn y Bont-faen, Aberhonddu, Abertawe, Caerdydd, Llanelli, Arberth ac Aberystwyth, ac maen nhw'n archwilio opsiynau yn y gogledd.
'Gofyn am gyngor meddyg teulu'
Bydd mwy na 3,000 o brofion ar gael, ar gost o fwy na £100,000 i'r elusen, dywedon, gan ychwanegu fod pobl yn cael eu hannog i roi cyfraniad.
Dywedodd y cyn-wrolegydd ymgynghorol a chadeirydd yr elusen, Andy Thomas, fod y galw am y prawf yn uchel.
"Dyma'r rhan gyntaf o'r broses o gael diagnosis, neu ddarganfod nad oes canser y prostad," meddai.
"Roedden ni'n arfer profi dynion â'n bysedd, ac mae hynny wir wedi atal dynion rhag cael eu profi, felly mae'r prawf PSA wedi'i ystyried yn bwysicach erbyn hyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru "nad prawf PSA yw'r ymyriad cywir bob amser i ddynion heb symptomau canser y brostad".
"Dylai dynion sydd heb unrhyw symptomau ond sy'n poeni am eu risg ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu cyn cynnal prawf PSA," ychwanegon.