Canser y prostad yn 'fygythiad tawel' sy'n effeithio 1 o bob 8
- Cyhoeddwyd
"Yn 50, o’n i’n iach, o’n i becso am ddim byd. Yn 51, o’n i’n cael e [prostad] wedi tynnu mas yn yr Heath yng Nghaerdydd."
Yn 51 oed, cafodd Andrew Williams o Lan y Fferi ddiagnosis o ganser y prostad.
Yn ystod digwyddiad ‘Brecwast Mawr’ yn siop goffi Ffab, Llandysul fore Mercher, mae'n egluro: “Beth o’dd yn bod arna i oedd gorfod mynd i’r toilet yn rhy aml, yn y diwedd o’n i’n dechrau colli bach.”
Yn ystod mis Tachwedd, mae elusen Prostate Cymru yn cynnal digwyddiadau ar hyd a lled Cymru er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o’r elusen a’r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion.
Bydd un o bob wyth o ddynion Cymru yn wynebu diagnosis o ganser y prostad yn ystod eu bywyd yn ôl Prostate Cymru, gyda’r ystadegau yn fwy o bryder i ddynion du.
Yn ôl yr elusen, mae'r math hwn o ganser yn effeithio ar un o bob pedwar o ddynion du yng Nghymru.
Mae canser y prostad yn "fygythiad tawel", meddai'r elusen, a mewn rhai achosion does dim symptomau o gwbl.
Mae’r risg yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer y rhai sydd â hanes teuluol hefyd, gyda'r canser yn effeithio ar un ym mhob tri dyn.
'Ma' fe yn y teulu'
Bu farw tad Andrew o ganser y prostad yn 89 oed.
“O’n i’n gwybod bod rhyw broblem gyda fy nhad, ond do’dd fy nhad ddim yn siarad amdano fe.
"Ar ôl i fi gael popeth, siarades i gyda fy nhad, lan i’r meddyg yn Llandysul a gweud ‘fi’n gwybod bod problem gyda fy nhad, ma’ eisiau edrych arno fe’ ond o’dd dwy flynedd wedi mynd ers iddo fe gael ei weld ac o achos hynny, o’dd e’n rhy hwyr.
"Ma’ fe yn y teulu. Ma’ cousin gyda fi nawr wedi cael yr un operation â fi yn 53 oed.”
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
Mae’r holl arian sy'n cael ei godi yn nigwyddiadau ‘Brecwast Mawr’ Prostate Cymru yn aros yng Nghymru, yn ôl yr elusen.
Y bwriad ydy defnyddio'r arian i helpu i godi ymwybyddiaeth ac i gefnogi gwaith ymchwil a thriniaeth i ddynion yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd neu ganser y prostad.
Deryc Rees yw cadeirydd grŵp yr elusen yn Sir Gaerfyrddin.
“Ni’n neud y brecwastau mawr ‘ma ar draws Tachwedd. Dwi’n ffeindio fe’n ffordd dda i fynd â’r neges i wahanol ardaloedd. Mae tri [brecwast] gyda ni yn Sir Gâr eleni,” meddai.
“Nid yn unig siarad â’r dynion, ni’n siarad â’r menywod hefyd achos ni gyd yn gwybod bod dynion yn gyndyn iawn i fynd i’r doctor ambell waith so ry’n ni’n siarad â’r menywod i wneud yn siwr bod nhw’n deall y sefyllfa hefyd.”
Fel rhan o’u hymgyrch, mae’r elusen yn dosbarthu taflenni yn nodi'r symptomau.
Gobaith yr elusen yw helpu dynion i fod yn ymwybodol o’r arwyddion sy’n awgrymu fod problem.
Wrth ateb yn onest, gall dynion fesur iechyd presennol eu prostad mewn ychydig eiliadau.
“Gall diagnosis cynnar arbed bywydau,” yn ôl Prostate Cymru.
Yn gadeirydd ar yr elusen, dywedodd Andy Thomas nad yw’r DU yn sgrinio ar gyfer canser y prostad.
“Dyw’r profion sydd gyda ni ddim yn ddigon cywir i sgrinio y boblogaeth gyfan o ddynion,” meddai.
“Beth ni’n trio gwneud yw codi ymwybyddiaeth ymysg dynion dros 50 neu dynion sy’n 45 mlwydd oed sydd â hanes teulu neu dynion du, sydd â risg uwch o ddatblygu canser y prostad, bod ganddyn nhw’r hawl i fynd i siarad â’u meddygon teulu am brofion prostad.”
Roedd Chris Jones, cyn-gyflwynydd tywydd S4C, newydd droi yn 50 pan gafodd broblemau gyda’i brostad.
“Es i ddathlu fy mhenblwydd yn 50 a methu pasio dŵr am 24 awr.
"Ces i fy rhuthro i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, cael y driniaeth wedyn ar gyfer prostad wedi chwyddo, byw gyda hwnna am dair blynedd a wedyn y symptomau yn dechrau ‘to sbo.
"Es i nôl mewn chwech wythnos a wedyn dod o hyd i’r celloedd ‘ma.”
Mae'n dweud ei fod yn “dipyn o sioc i ddweud y gwir, bod rhywun mor ifanc â fi yn gallu cael y math yma o beth".
"Y cyngor, os oes unrhyw symptomau gyda chi, yn enwedig os oes gyda chi ganser y prostad yn y teulu, ewch i weld y meddyg teulu.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018