Eluned Morgan yn llongyfarch Trump ar ei fuddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi llongyfarch Donald Trump ar ei fuddugoliaeth yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Eluned Morgan fod gan Gymru a’r Unol Daleithiau “berthynas gref”, a'i bod hi’n edrych ymlaen at weld hynny’n parhau.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd Andrew RT Davies hefyd wedi rhoi teyrnged i Mr Trump.
Ond mae un o gyn-aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, yn dweud bod ei fuddugoliaeth yn “fygythiad i reolaeth y gyfraith a democratiaeth”.
Dywedodd Eluned Morgan ar X: "Llongyfarchiadau ar gael eich ethol yn Arlywydd Unol Daleithiau America."
Ychwanegodd: "Mae gan Gymru a'r Unol Daleithiau berthynas gref yr ydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr.
"Edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth honno er budd ein holl bobl."
Ddoe yn siambr y Senedd, mewn ymateb i gwestiwn ar yr "argyfwng natur" gan yr AS Llafur Joyce Watson, dywedodd y prif weinidog y "bydd effaith ar newid hinsawdd, yn dibynnu ar bwy sy'n ennill, a bydd yn effeithio ar bob un ohonom".
"Felly mae pwysigrwydd diogelu natur yng Nghymru yn cael ei ddeall yn dda. Rwy’n gobeithio bod pobl yr Unol Daleithiau yn deall eu cyfrifoldebau hefyd.”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Waeth beth fo'ch gwleidyddiaeth, ni allwch danamcangyfrif maint buddugoliaeth Trump heno.
"Llongyfarchiadau Mr Arlywydd."
Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau yn gam yn ôl i hawliau menywod a sefydlogrwydd byd-eang".
"Mae’r angen i gryfhau cysylltiadau â’n cymdogion yn Ewrop rŵan yn fwy o frys nag erioed, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau bod llywodraethau’n aros yn driw i’w gair ac yn gwrando ar leisiau’r rhai sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas."
'Hwb i ffasgaeth Rwsia a Putin'
Dywedodd cyn-aelod cabinet Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw - a fu'n gwnsler cyffredinol, sef prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth: "Mae buddugoliaeth Trump yn hwb i ffasgaeth Rwsia a Putin, yn fygythiad i reolaeth y gyfraith a democratiaeth."
Mae gan aelod o'r Senedd Pontypridd, Antoniw, deulu yn Wcráin ac mae'n ymweld â'r ardal yn rheolaidd.
Mae pryderon y bydd yr Unol Daleithiau o dan Trump yn torri cymorth milwrol i’r wlad ar gyfer ei rhyfel yn erbyn Rwsia.
Mae Trump wedi dweud o’r blaen y byddai’n “gweithio rhywbeth allan” i ddod â’r gwrthdaro i ben ac wedi awgrymu y gallai fod yn rhaid i’r Wcráin ildio rhywfaint o dir i Rwsia.
Ychwanegodd Antoniw: "Mae'n rhaid i ni sefyll gydag Wcráin nawr yn fwy nag ar unrhyw adeg."
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, yn 2023 yr Unol Daleithiau oedd y farchnad gwerth uchaf ar gyfer cynhyrchion o Gymru, gan gyfrif am £2.9bn (15.1%) o allforion, er bod y gyfran hon wedi gostwng o 16.6% yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl