Galw am fwy o fuddsoddiad i ddefnyddio natur i atal llifogydd

Cloddwyr coch a gwyn yn casglu mat cors oddi ar dir y MigneintFfynhonnell y llun, Paul Harris/Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun newydd ar y Migneint yn rhan o ymdrech genedlaethol i leihau'r risg o lifogydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd naturiol er mwyn diogelu cymunedau dros y degawdau nesaf, yn ôl arbenigwr.

Daw galwad Dr Eurgain Powell o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wrth i gynllun newydd ddechrau i wella cyflwr tir y Migneint ger Dyffryn Conwy.

Nod y cynllun yw adfer y tir sydd wedi erydu fel bod modd iddo ddal mwy o ddŵr.

Bydd hyn yn helpu i arafu'r dŵr rhag llifo'n gyflym i ardaloedd cyfagos ac achosi llifogydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd, a'u bod yn cefnogi 23 cynllun tebyg eleni.

MigneintFfynhonnell y llun, Paul Harris/Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd ardaloedd cyfagos yn gweld llai o lifogydd oherwydd y cynllun ar y Migneint

Mae'r prosiect gwerth £180,000 ar y Migneint yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwmni yswiriant Admiral.

Mae'r gwaith ar y llwyfandir helaeth yn anelu at wella gallu'r tir i storio dŵr a charbon er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd.

Dywedodd Iago Thomas, swyddog mawndiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae'r erydiad yn golygu bod y dŵr yn llifo lawr yn sydyn oddi ar y mawndir.

"A hefyd mae'r carbon sy'n cael ei storio yn y mawn yn cael ei ryddhau pan mae o mewn cyflwr drwg.

"Pan mae dŵr yn disgyn mae'n llifo lawr at yr afonydd ac at y dalgylch, ac os 'da ni'n adfer yr ardal yma mi 'neith o arafu llif y dŵr."

Iago Thomas, Swyddog Mawndiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gwisgo het gaeaf a chot yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda thir y Migneint yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iago Thomas yn gweithio ar brosiect i wella cyflwr y mawndir er mwyn lleihau'r risg o lifogydd

Mae'r gwaith yn digwydd dros ardal o 12 hectar, sy'n cyfateb i ardal gyfwerth â thri Stadiwm Principality, ac mae disgwyl iddo gymryd tair blynedd i'w gwblhau.

Wedi hynny, y gobaith yw y bydd trefi fel Llanrwst, sydd 10 milltir i ffwrdd ac yn dioddef llifogydd yn aml, yn gweld gwerth y cynllun.

Dywedodd y cynghorydd dros ardal Uwch Conwy, Dilwyn Roberts: "Mae'n rhyfedd be' sy'n digwydd 10 milltir i ffwrdd a sut mae'n gallu effeithio ar fa'ma".

"Ond mwya'r dŵr glaw maen nhw'n gallu ei gynnal yn y corsydd ac ar y Migneint, gorau'n byd ydy o i ni yn fa'ma."

Yn ôl y Cynghorydd Roberts, pan mae'r dŵr yn llifo o'r Migneint a'r llanw yn uchel o'r môr, mae Afon Conwy yn aml yn gorlifo.

Mae'n dweud ei fod yn falch o weld cynllun naturiol all wneud gwahaniaeth.

Cynghorydd dros ardal Uwch Conwy, Dilwyn Roberts yn sefyll o flaen llyn. Mae ganddo wallt gwyn ac mae'n gwisgo siaced lwyd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Dilwyn Roberts yn dweud bod prosiectau naturiol fel hyn yn hanfodol i'r ardal

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar yr isadeiledd angenrheidiol.

Yn ôl Dr Eurgain Powell, sy'n arbenigo yn y maes, mae angen mwy o fuddsoddiad.

"Ni'n credu bydd o gwmpas un o bob pedwar cartref ar risg o lifogydd erbyn 2025 felly does dim digon o arian a chyllid yn cael ei wario ar foment.

"Mae angen trial ffeindio ffynonellau mwy arloesol gan weithio gyda'r sector breifat - cwmnïau fel Admiral - er mwyn ceisio lleihau'r risg ni am weld o'r llifogydd yma."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau naturiol i helpu diogelu cymunedau rhag llifogydd.

Dywedodd llefarydd: "Gyda newid hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd difrifoldeb llifogydd, rydym yn darparu buddsoddiad sylweddol i gefnogi pobl ar draws Cymru."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod £2m yn ychwanegol eleni wedi'i fuddsoddi i gefnogi 23 o brosiectau naturiol newydd, sy'n anelu at leihau'r risg o lifogydd i 2,800 o gartrefi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig