'Ffordd bell i fynd' i fwrdd iechyd sy'n parhau dan fesurau arbennig

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod "llawer iawn o waith da yn mynd rhagddo ar draws y gogledd"

  • Cyhoeddwyd

Mae "ffordd bell iawn i fynd" cyn y bydd modd tynnu bwrdd iechyd y gogledd allan o fesurau arbennig, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod o dan y lefel uchaf o arolygiaeth gan y llywodraeth ers Chwefror 2023.

Bydd yn parhau o dan fesurau arbennig, er eu bod wedi gwneud cynnydd, yn ôl adroddiad.

Digwyddodd hynny ar ôl cyfres o fethiannau difrifol o ran diogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu, ynghyd â phrinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael.

Yn ôl adroddiad sydd wedi bod yn edrych ar y cyfnod o ddwy flynedd ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi dan fesurau arbennig, mae cynnydd wedi'i wneud mewn amryw o feysydd – gan gynnwys y diwylliant, y trefniadau arwain a llywodraethu, a safonau ansawdd a diogelwch.

Ond mae'n dweud hefyd bod rhai heriau yn parhau, yn enwedig o ran perfformiad gofal sydd wedi'i gynllunio o flaen llaw, a sicrhau mynediad amserol at ofal brys.

Arwyddion calonogol

Yn ôl yr adroddiad, ymhlith yr arwyddion bod gwasanaethau'n gwella mae'r ffaith bod dwy ran o dair yn llai o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth orthopedig; cytuno ar gontractau deintyddol newydd a gwell gwasanaeth o ran iechyd meddwl oedolion a phobl ifanc.

Mae hefyd nifer o ddatblygiadau wedi bod gan gynnwys agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, a bod adran frys Ysbyty Gwynedd wedi'i henwi fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles: "Hoffwn i ganmol ymrwymiad a phenderfyniad y staff i wneud gwelliannau ystyrlon i wasanaethau iechyd ar gyfer pobl y gogledd."

Ychwanegodd y "byddwn ni'n parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd i wella ac i ddarparu gofal rhagorol i bobl yn y gogledd".

Arwydd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod o dan y lefel uchaf o arolygiaeth gan Lywodraeth Cymru ers Chwefror 2023

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles "nid nawr yw'r amser i isgyfeirio statws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig".

"Ond, gadewch inni gadw mewn cof bod llawer iawn o waith da yn mynd rhagddo ar draws y gogledd."

Heb roi amserlen, dywedodd fod "ffordd bell iawn i fynd" cyn y gallai mesurau arbennig gael eu dileu.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, yn cynrychioli ardal y mae'r bwrdd iechyd yn ei gwasanaethu.

Dywedodd wrth ASau: "Rwyf am ddiolch i'r holl staff GIG hynny sy'n gweithio'n galed yn y system yn ceisio darparu gofal o'r ansawdd gorau y gallant ond y gwir amdani yw, yn rhy aml o lawer, mae cleifion yn fy etholaeth i a mannau eraill ar draws gogledd Cymru yn teimlo'n siomedig ynghylch y bwrdd iechyd hwn a'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn."

Dywedodd Mr Millar fod diffyg targedau mesuradwy yn ymateb y llywodraeth, gan ychwanegu "dyw'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth a'r bwrdd iechyd ddim yn rhoi unrhyw hyder i ni fod pethau'n mynd i wella".

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ab Gwynfor, "mae bwrdd iechyd y gogledd wedi bod mewn mesurau arbennig am dros dwy ran o dair o'i holl fodolaeth, sy'n tanlinellu'n glir i ba raddau mae'r eithriadol wedi cael ei normaleiddio o dan y llywodraeth hon".

Gan gyfeirio at ofal fasgwlar, ychwanegodd "mae'n bechod bod y gwasanaeth wedi cael ei dynnu o Ysbyty Gwynedd yn y lle cyntaf, ond rŵan mae disgwyl i nifer o gleifion dderbyn eu gofal yn Stoke.

"Ai allanoli gwasanaethau i ysbyty yn Lloegr ydy pinacl uchelgais y llywodraeth hon?"

'Sylfaen gadarn'

Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards ei fod yn falch o weld bod yr adroddiad "yn adlewyrchu'r gwaith da sydd wedi cael ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf i atgyfnerthu'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn gweithredu".

"Trwy well dulliau arwain, llywodraethu a rheolaeth ariannol, rydym bellach wedi creu sylfaen gadarn i ddatblygu sefydliad cynaliadwy yn y tymor hirach, gan hefyd fynd i'r afael â rhai o'r materion perfformiad yn y tymor byrrach."

Ychwanegodd y prif weithredwr Carol Shillabeer: "Mae'n amlwg ein bod ni'n gwneud cynnydd ac rwy'n awyddus i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r daith hyd yma.

"Ni ellir gwadu bod gennym lawer iawn mwy i'w wneud ac rydym erbyn hyn yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau pellach ar gyfer cymunedau, cleifion a staff yng ngogledd Cymru.

"Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau.

"I wneud hyn, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, y cyhoedd ac i ddefnyddio arloesi ac arbenigedd ein gweithlu i'r eithaf."