Penodi cadeirydd parhaol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Dyfed Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - sydd wedi ei benodi yn gadeirydd parhaol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Dyfed Edwards wedi cael ei benodi yn gadeirydd parhaol ar fwrdd iechyd y gogledd.

Fe wnaeth Dyfed Edwards ymgymryd â'r rôl mewn capasiti dros dro nôl ym mis Mawrth y llynedd, yn sgil gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig unwaith eto.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y byddai Mr Edwards yn cynnig "profiad a dealltwriaeth sylweddol" ac y bydd yn "parhau i adeiladu ar y sylfaen ardderchog y mae wedi ei osod dros y misoedd diwethaf".

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn dymuno'r gorau i Mr Edwards wrth iddo geisio mynd i'r afael â'r methiannau dybryd o fewn gwasanaeth iechyd y gogledd".

Mae gan Betsi Cadwaladr, sefydliad iechyd mwyaf Cymru, weithlu o 19,000 yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'n cael y lefel uchaf o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyfres o fethiannau difrifol ar ddiogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu, ynghyd â phrinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan ei bod yn gobeithio penodi aelodau eraill y bwrdd ym mis Chwefror

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Dyfed Edwards mewn datganiad: "Mae cael y cyfle yma wir wedi bod yn bleser i mi, a byddaf yn parhau i weithio'n ddiflino ar ran y bwrdd iechyd a phobl gogledd Cymru.

"Mae iechyd a'r system iechyd a gofal yn cyffwrdd bob rhan o'n bywydau ar wahanol adegau, ac mae'n rhan allweddol o'r hyn sy'n cynnal ein cymunedau yn y gogledd.

"Ry'n ni'n gwybod fod y bwrdd iechyd wedi bod yn tangyflawni ac yn methu wrth geisio cynnig gwasanaethau cyhoeddus o'r safon uchaf, ond yn y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cwrdd â sawl aelod o staff arbennig, ac wedi gweld rhai gwasanaethau ardderchog.

"Mae hi wir yn anrhydedd gallu ymuno a'r tîm o 19,000 o fewn y bwrdd iechyd, a dwi'n gwybod eu bod nhw yn rhannu'r un uchelgais a mi a gweddill y bwrdd - o wneud gwelliannau hir dymor."

Ychwanegodd bod cynnydd eisoes wedi cael ei wneud, a'i fod yn edrych ymlaen at barhau â'r siwrnai tuag at sefydlu gwasanaeth mwy effeithiol.

'Rôl hollbwysig'

Yn ôl Eluned Morgan, mae'r broses o benodi pedwar aelod annibynnol arall i'r bwrdd ar waith a dywedodd bod disgwyl i'r penodiadau hynny gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

"Bydd penodi'r aelodau hyn yn sicrhau bod gan y bwrdd y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i arwain y sefydliad drwy'r cyfnod yma o fesurau arbennig," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn agosáu at garreg filltir arall dan fesurau arbennig, ond mae staff a chleifion yn dal i aros i weld y gwelliannau y mae Llafur wedi eu haddo.

"Mae cadeirydd yn rôl hollbwysig gyda chyfrifoldeb enfawr, felly dwi'n dymuno'r gorau i Dyfed Edwards ac yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef wrth iddo geisio mynd i'r afael a'r methiannau dybryd o fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru."