Tocynnau chwaraeon, gwin a blodau'n rhoddion i staff Llywodraeth Cymru

Mae siampên a blodau ar y rhestr o roddion i staff y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae tocynnau i ddigwyddiadau chwaraeon, basgedi bwyd, siocledi, blodau a thalebau ymhlith y rhoddion a dderbyniwyd gan staff Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae gemau rygbi, pêl-droed a chriced rhyngwladol, siampên a gwin ar y rhestr o anrhegion a dderbyniwyd.
Roedd mynychu gêm griced Lloegr v Seland Newydd ym mis Medi 2023 yn werth £1,080.
Derbyniwyd dau daleb gwerth £100 yr oedd modd eu gwario mewn amrywiaeth o fanwerthwyr gan gynnwys bwytai, ffasiwn a harddwch.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylai gweision sifil dderbyn "rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill a allai feithrin amheuaeth o wrthdaro rhwng ein dyletswyddau swyddogol a'n buddiannau preifat".

Derbyniwyd "potel o wisgi a rỳm Penderyn" gwerth £64 ac yna fe'i rhoddwyd i elusen
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chofrestr o roddion a dderbyniwyd gan weision sifil, ond cafodd BBC Cymru y gofrestr am y pum mlynedd diwethaf o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Roedd y blodau'n amrywio o "ddiolch hwyr am waith yn yr adran polisi ynni, £30" i dusw gwerth £85.
Roedd dau docyn ar gyfer gêm rygbi ryngwladol yn erbyn Yr Alban yn werth £300 yr un, rhestrwyd tocyn ar gyfer gêm rygbi ryngwladol yr Hydref rhwng Cymru ac Awstralia fel un a gostiodd rhwng £50 a £100 ac roedd gêm rygbi Cymru v Ffiji wedi'i phrisio am "lai na £200".
Mae un cofnod yn cynnwys gwall yn nodi bod staff wedi cael tocynnau gwerth £250 y pen i weld "gêm bêl-droed Awstralia v Cymru" ar 24/03/2022 - y noson y curodd Cymru Awstria 2-1 yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Rhestrwyd tocyn "Grand Prix Supercross y Byd" fel un a gostiodd £180.
Prisiwyd "galwad Zoom a diod" yn ystod cyfyngiadau'r coronafeirws ym mis Chwefror 2021 fel un a gostiodd "£20-£50".
Pa anrhegion a dderbyniwyd gan brif weinidogion?
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2022
Ciniawau a swperau sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o'r lletygarwch. Ymhlith anrhegion eraill a dderbyniwyd roedd:
"Anrhegion amrywiol", £130
Set adeiladu pren, £25
Basged fwyd, £50
Dwy fasged fwyd arall, £20 yr un
Dau focs o siocledi Nadolig, £90
Glôb addurniadol, £15
Potel fach o win a thri eliffant addurniadol bach, £25
Potel o siampên Moët, £45
Fâs wedi'i ysgythru, £20
"Cariad Dog Therapy - ci robotig £50". Mae Cariad Pet Therapy yn gwmni buddiant cymunedol dielw sy'n dweud ei fod yn "creu cysylltiadau cydsyniol rhwng bodau dynol a chŵn er budd i'w gilydd".
Rhoddwyd llety a chostau teithio gwerth €1,128 i swyddog fynychu cynhadledd a drefnwyd gan Gymdeithas Iechyd Cyhoeddus Ewrop ym Madrid yn gynharach eleni.
Cyfanswm y gost lletygarwch, arhosiad dros nos a theithio i swyddog fynychu fforwm arweinyddiaeth technoleg iechyd Iwerddon oedd tua £500 eleni.
'Amheuaeth o wrthdaro'
Mae'r canllawiau i staff Llywodraeth Cymru ar roddion yn nodi: "Fel gweision sifil, rhaid i ni beidio â derbyn rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill a allai feithrin amheuaeth o wrthdaro rhwng ein dyletswyddau swyddogol a'n buddiannau preifat.
"Mae hyn yn golygu y dylech wrthod yn gwrtais unrhyw gynigion o anrhegion, gwobrwyon neu letygarwch sy'n cael eu derbyn wrth i chi ymgymryd â'ch dyletswyddau swyddogol, oni bai eu bod yn perthyn i un o'r eithriadau a ddiffinnir yn ein polisi rhoddion, gwobrau a lletygarwch, megis:
rhoddion, gwobrau neu letygarwch sydd â gwerth amcangyfrifedig o £20 neu lai
rhoddion, gwobrau neu letygarwch sy'n werth mwy nag £20 ond sy'n rhesymol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau, fel brechdan wrth weithio neu ginio bwffe mewn cynhadledd neu ddigwyddiad arall sy'n gysylltiedig â gwaith.
"Rhaid datgan unrhyw gynigion o roddion, gwobrau neu letygarwch gwerth mwy nag £20 i'ch rheolwr llinell (p'un a ydych yn eu derbyn ai peidio)."
Er nad yw'r rhan fwyaf o roddion i weision sifil yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd, mae treuliau a lletygarwch aelodau bwrdd Llywodraeth Cymru, dolen allanol - yr ysgrifennydd parhaol a'r cyfarwyddwyr cyffredinol - yn cael eu cyhoeddi ac maent yn cynnwys costau teithio a llety yn bennaf.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 5,932 o staff yn gweithio i Lywodraeth Cymru.
Rhaid i bob aelod o'r Senedd, gan gynnwys gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, gwblhau cofrestr o fuddiannau, dolen allanol, sy'n cynnwys "rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol".