Cyn-gaplan ysgol yn cyfaddef creu delweddau anweddus o blant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gaplan ysgol a rheithor wedi cyfaddef iddo greu delweddau anweddus o blentyn.
Fe wnaeth Samuel Erlandson, 36 o Riwabon, bledio'n euog i ddau gyhuddiad o'r fath yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.
Mae Erlandson bellach wedi cael ei ddiswyddo fel caplan St David’s College - ysgol breswyl yn Llandudno.
Y gred yw nad yw'r cyhuddiadau yn ymwneud a disgyblion yn yr ysgol hon.
'Wedi'n syfrdanu a'n pryderu'
Dywedodd llefarydd ar ran St David’s College: "Rydym wedi ein syfrdanu a'n pryderu gan y newyddion fod Samuel Erlandson wedi cyfaddef cyflawni'r troseddau ofnadwy yma.
"Pan gawsom ni wybod ei fod wedi ei arestio, fe gymron ni gamau yn syth i sicrhau nad oedd ganddo gyswllt pellach gyda chymuned yr ysgol.
"Pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi pledio'n euog, fe gafodd ei ddiswyddo o'i rôl yn syth.
"Nid oes modd i ni wneud sylw pellach ar y mater tra bod prosesau cyfreithiol yn parhau."
Roedd Samuel Erlandson hefyd wedi gweithio fel rheithor yng nghapeli St Hilary's yn Llan-rhos a St Paul's yn Llandudno.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi galw ar unrhyw un sydd â phryderon neu sydd am rannu gwybodaeth mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yma, i gysylltu â nhw.