Anafiadau difrifol i feiciwr modur wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

Cafodd Heddlu'r De eu galw i wrthdrawiad rhwng beic modur a Volkswagen Passat glas ar Ffordd Fabian am 09:40 bore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i wrthdrawiad rhwng beic modur a Volkswagen Passat glas ar Ffordd Fabian am 09:40 bore Sadwrn.
Cafodd y beiciwr modur, dyn 48 oed, ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae'r llu yn ymchwilio'r gwrthdrawiad ac yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Sarjant Balzano o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Hoffem ddiolch i'r bobl wnaeth siarad â ni yn y fan a'r lle ac rydym am i unrhyw un arall a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â swyddogion.
"Rydym yn annog gyrwyr a oedd yn yr ardal ar y pryd i wirio am luniau dashcam o'r digwyddiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.