Tanni Grey-Thompson wedi gorfod 'cropian' oddi ar drên

Tanni Grey-Thompson yn dal meicroffon, ac yn gwisgo dillad glas. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl aros am 20 munud yn yr orsaf drenau bu'n rhaid i Tanni Grey-Thompson ddod oddi ar y trên ar ei phen ei hun

  • Cyhoeddwyd

Bu’n rhaid i'r Farwnes Tanni Grey-Thompson “gropian oddi ar” drên LNER yng ngorsaf King’s Cross, Llundain.

Mewn cyfweliad ar Raglen Today Radio 4, esboniodd y cyn-bencampwraig Paralympaidd ei bod hi wedi trefnu cymorth i’w helpu hi ddod oddi ar y trên 19:15 o Leeds, ond fethodd hi’r trên hwnnw ac fe wnaeth hi ddal gwasanaeth hwyrach wrth iddi deithio i Baris ar gyfer y Gemau Paralympaidd.

Ar ôl aros am gymorth am 20 munud, bu’n rhaid iddi geisio dod oddi ar y trên ar ei phen ei hun.

Mae LNER yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ac yn ymddiheuro am y ffaith fod problem wedi bod yn yr orsaf.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Tanni Grey-Thompson yng Ngemau Paralympaidd Athens yn 2004, lle enillodd hi ddwy fedal aur

“Doedd neb yna i gwrdd â fi, felly bu’n rhaid i fi aros am bum munud cyn rhoi unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol gan mai pum munud rydych chi i fod i aros. Ar ôl 16 munud o aros yn King’s Cross, doedd neb mewn golwg,” meddai.

“Roedd yna gwpwl o lanhawyr ond nid oes ganddyn nhw'r yswiriant cywir i allu'n helpu i. Felly nes i benderfynu cropian oddi ar y trên.

“Dwi ar y ffordd i Baris, ma’ gyda fi tipyn o fagiau. Bu’n rhaid i fi eu taflu ar y platfform, dod allan o fy nghadair ac eistedd ar y llawr ger y drws, sy’ ddim yn bleserus, wedyn cropian oddi ar y trên."

Er ei bod hi wedi dal trên hwyrach na’r disgwyl, roedd “ganddi gytundeb” yn nodi y byddai rhywun yn cwrdd â hi ar yr ochr arall.

'Ro'n i'n flin iawn'

“Yn gyfreithiol, dwi’n cael troi lan a gofyn am gael mynd ar drên.

“Roedden ni fod i gael level boarding yn y DU ar 1 Ionawr 2020 yn ôl y Ddeddf Anabledd a Gwahaniaethu ond mae’r llywodraeth wedi oedi gweithredu.

“Dwi mwy na lai yn gallu dod oddi ar y trên os oes angen i fi, ond mae ‘na ddigonedd o bobl sy’n methu gwneud hynny.

“Dwi ddim wir yn gallu cropian, ond dwi’n gallu eistedd ar y llawr a llusgo fy nghoesau. Doedd neb o gwmpas ac ro'n i’n flin iawn neithiwr.

“Os na fyddai’r rheolwr trên wedi fy ngweld i’n cropian i ffwrdd, byddai’n rhaid i mi fod wedi tynnu’r cordyn argyfwng, a byswn ni wedi oedi’r trên."

Dywedodd llefarydd ar ran LNER: “Mae'n ddrwg gennym i glywed fod problem wedi codi yng ngorsaf King’s Cross Llundain nos Lun.

“Rydym yn y broses o ymchwilio i'r mater ac rydym mewn cysylltiad uniongyrchol gyda’r cwsmer."

Pynciau cysylltiedig