Groto ar gau gan nad oes Siôn Corn ar gael yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd un groto Siôn Corn yng Nghaerdydd ddim ar agor eleni oherwydd "prinder Santas".
Nifer bychan o bobl wnaeth wneud cais am y rôl, yn ôl yr atyniad ar Stryd y Frenhines.
Nododd neges Facebook gan y groto ym mis Medi, y byddai "tâl gwych a bod yna gyfle i weithio mewn cwt coed cynnes".
Ond mae'n ymddangos nad oedd digon o ddiddordeb ac mae nifer o deuluoedd wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn siomedig.
Dyw'r newyddion ddim yn sioc i Mark Roberts o Gelligaer yn Sir Caerffili sydd wedi bod yn Siôn Corn proffesiynol ers y pandemig.
Mae ei ddyddiadur ef yn llawn Nadolig eleni a flwyddyn nesaf.
"Gall unrhyw un roi gwisg ymlaen - ond mae yna reswm pam fod galw mawr am Siôn Corn proffesiynol," meddai.
"Mae hi'n swydd anodd, weithiau dwi'n eistedd ar y sled, dwi'n cerdded o gwmpas yn boeth, dwi'n berwi, ac yn gyson yn derbyn diodydd oer gan fy mhartner."
Mae rheolwyr y groto wedi ymddiheuro ar Facebook, ac wedi dweud eu bod yn gobeithio ailagor y drysau y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023