Meddwl am y Nadolig yn rhoi 'ofn' i rai sy'n ddibynnol ar fanciau bwyd

Samantha Price yn sefyll rhwng bocsys banc bwyd Aberbargoed ac yn edrych ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Samantha Price, sydd wedi bod yn defnyddio banc bwyd er 2018, yn dweud ei bod yn poeni am gyfnod y Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Mae Samantha Price yn dweud fod y banc bwyd yn achubiaeth iddi ers colli ei swydd, ac yn ei helpu i fwydo ei merch 12 oed.

"Rwy'n cymryd un dydd ar y tro," meddai.

"Dwi ddim yn gallu edrych 'mlaen o gwbl ac mae hyd yn oed meddwl am Nadolig yn rhoi ofn i fi."

Fe wnaeth 19,000 o bobl ymweld â banc bwyd am y tro cynta' rhwng Ebrill a Medi eleni.

Mae'r elusen Trussell yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i daclo ac atal y galw am becynnau bwyd brys yn y gyllideb fis nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i daclo tlodi.

'Rhowch eich balchder i'r ochr'

Dyw cymryd y cam cyntaf ddim yn hawdd, meddai Samantha, sy'n ymweld â'r banc bwyd yn Aberbargoed, Sir Caerffili.

"Des i yma am y tro cynta' yn 2018. Roeddwn i newydd golli fy swydd," meddai.

"Dim incwm ac ar fudd-daliadau ar y pryd. Dwi mor falch i mi ddod a gofyn am help.

"Mae'r banc bwyd yn rhoi reis, swp, saws pasta, herbs, llefrith sy'n hanfodol, nwyddau ymolchi a glendid personol. Popeth chi angen.

"Os oes rhywun mewn sefyllfa debyg i mi, plîs, rhowch eich balchder i'r naill ochr a cysylltwch am help."

Ceri Robbins sy'n gwisgo cardigan werdd elusen Trussell yn sefyll ynghanol nwyddau banc bwyd Aberbargoed ac yn edrych i'r camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Robbins sy'n gwirfoddoli ym manc bwyd Aberbargoed yn teimlo fod y banciau bwyd yma i aros

Mae Ceri Robbins yn swyddog prosiect gyda banc bwyd Cwm Rhymni, ac wrth drafod gwaith y banc mewn capel bach ar y stryd fawr yn Aberbargoed, mae hi'n rhestru'r bobl sy'n galw mewn i gasglu parseli bwyd.

"Pobl sy' chwant bwyd a phobl sy' ddim yn gallu fforddio trydan a nwy. Teuluoedd, pobl sengl a phobl heb rh'wle i fyw. Pobl sy'n gweithio hefyd a phobl sy'n sâl."

Ychwanegodd: "Ry' ni yn brysur iawn iawn, nid jyst yn dosbarthu bwyd ond ry' ni yn rheoli sesiynau yn Rhymni, Tredegar Newydd ac Aberbargoed ar wahanol ddyddie yr wthnos. [Mae] lot o bobl yn dod i rheina am gyngor ag ati."

Esboniodd hefyd eu bod yn "delio â vouchers nwy a thrydan i helpu".

Beth yw'r ffigyrau?

Yn ôl elusen Trussell roedd eu banciau bwyd wedi dosbarthu dros 80,000 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng Ebrill a Medi eleni.

Roedd rheiny yn cynnwys 29,000 o barseli i blant.

Er hynny mae Trussell yn dweud iddyn nhw weld gostyngiad bychan o 5,920 yn y galw am barseli bwyd ar draws Cymru o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd - sy'n cyfateb i ostyngiad o 7%.

Ond mae'r ffigwr dal 42% yn uwch nag oedd e yn 2019.

Bagiau plastig yn llawn nwyddau'r banc bwyd yn barod i'w dosbarthu.
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth banciau bwyd elusen Trussell ddosbarthu dros 80,000 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng Ebrill a Medi eleni

Mae pobl yn gorfod troi at y banciau bwyd, meddai'r elusen, gan nad yw'r incwm maen nhw yn ei gael o'r gwaith a thaliadau budd-dal yn ddigon i dalu am gost nwyddau hanfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cyhoeddi yn ddiweddar £700,000 yn ychwanegol i'r Fuel Bank Foundation," a'u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i daclo tlodi.

Ychwanegodd y byddan nhw'n "gwneud eu penderfyniadau gwariant wrth iddyn nhw ddatblygu eu cyllideb ddrafft yn yr wythnosau sydd i ddod, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf".