Swyddog heddlu yn euog o gam-drin merch dan 13

John StringerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Stringer yn ynmddangos yn ddagreuol wrth i'r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniadau

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi dyfarnu bod swyddog gyda Heddlu Gwent yn euog o gam-drin merch dan 13 oed yn rhywiol.

Roedd John Stringer, sy'n 42 oed ac o Gaerdydd, wedi pledio'n ddieuog i bump o gyhuddiadau yn ymwneud â'r plentyn.

Fe benderfynodd y rheithgor yn unfrydol ei fod yn euog o ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd, ac un cyhuddiad o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.

Dyfarnodd y mwyafrif - 11 i un - bod Stringer yn euog o ail gyhuddiad o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.

Daeth 10 o'r 12 aelod o'r rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog hefyd yn achos y pumed cyhuddiad, o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.

Roedd yn ymddangos yn ddagreuol wrth glywed y dyfarniadau ac roedd perthnasau iddo yn wylo wrth iddo gael ei dywys o'r llys.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa hyd nes gwrandawiad i'w ddedfrydu ar 28 Hydref.