Lluniau: Dydd Gwener yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Daeth yr haul i ddisgleirio ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Bu Gorsedd Cymru yn anrhydeddu aelodau newydd yn y bore a Tudur Hallam wnaeth gipio'r Gadair yn y prynhawn.
Dyma rai lluniau o'r dydd:

Mae Sion Peter Davies yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam a daw'n wreiddiol o Wrecsam. Roedd yn falch o fod yn rhan o Seremoni'r Orsedd, gan gludo baner

Coroni wythnos i'w chofio i'r actor Mark Lewis Jones, Llywydd yr Ŵyl eleni
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

Cadi Mars Jones yn canu yn ystod seremoni'r Orsedd

Y band Melys yn perfformio ym Mhentref Wrecsam ar y Maes

Maxine Hughes yn cael ei hurddo i'r Orsedd

Mae Robert Humphries yn Gyfarwyddwr Canolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr yn Nebraska ac wedi teithio i'r Eisteddfod

Cafodd y darlledwr a'r newyddiadurwr, Dewi Llwyd ei anrhydeddu gan yr Orsedd

Cadi, Ania a Iago yn mwynhau picnic wrth wrando ar Cor Ni

Arwel 'Gildas' Lloyd yn diddanu cynulleidfa gyda set acwstig

Roedd y gwneuthurwr swigod yn boblogaidd iawn gyda phlant

Matteo a Monte yn ceisio creu ynni ar ôl adeiladu melin wynt

Cynhaliwyd gwasanaeth Mwslimaidd yn Gymraeg ar y Maes heddiw - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngogledd Cymru

Ymarferferion munud olaf i rai...

Tra bo eraill yn ymlacio ger Llwyfan y Pafiliwn

Y Babell Lên yn llawn ar gyfer rownd derfynol Ymryson y Beirdd, Barddas

Nid pobl yn unig sy'n mwynhau ar y Maes eleni


Miriam o Lanystumdwy ac Elin o Dremadog yn edrych ymlaen i weld Anweledig ar lwyfan y maes

Roedd y Pafiliwn yn llawn ar gyfer Seremoni'r Cadeirio

Y Prifardd, Tudur Hallam yn Eistedd yng Nghadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi seremoni deimladwy
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl