Cymru'n colli 3-0 yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar

Bukayo Saka yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe gollodd Cymru o dair gôl i ddim yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley nos Iau.

O fewn ugain munud roedd her mawr Cymru wedi troi'n un anferth gyda Morgan Rogers, Ollie Watkins a Bukayo Saka i gyd wedi dod o hyd i gefn y rhwyd.

Fe gafodd Cymru ychydig o gyfleoedd yn yr ail hanner ond Lloegr reolodd y gêm gyfan.

Daw'r gêm ychydig ddyddiau cyn i Wlad Belg ymweld â Chaerdydd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Ollie Watkins yn colli cyfle yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

O ystyried mai gêm gyfeillgar oedd hi roedd yr anthem yn swnio'n gryf ond ni chafodd cefnogwyr Cymru lawer i ganu amdano wedi hynny.

Ychydig ar ôl dwy funud ers y chwiban cyntaf fe ddaeth gôl gyntaf Lloegr gyda Morgan Rogers yn dechrau'r sgorio.

Parhaodd Lloegr i roi'r pwysau i gyd ar Gymru heb ildio dim.

Daeth yr ail gôl i Loegr ychydig wedi 10 munud gydag Ollie Watkins - y gŵr gafodd ei ddewis yn lle Harry Kane - yn sgorio ei chweched gôl dros ei wlad.

Roedd y cyfleoedd yn dod un ar ôl y llall i wrthwynebwyr Cymru gyda phopeth yn cwympo i droed y crysau gwynion.

Cyn i'r cloc droi'n 20 munud fe laniodd y bêl wrth droed Bukayo Saka ac fe gymerodd ei gyfle gan sgorio gôl anhygoel ar ei droed chwith - yn syth i gornel uchaf y rhwyd.

Roedd Lloegr yn rheoli pob agwedd ar y gêm gyda Chymru'n ei chael hi'n anodd gadael hanner eu hunain heb son am adeiladu momentwm.

Fe darodd Ollie Watkins y postyn gyda chyfle ar ddiwedd yr hanner cyntaf a Chymru'n ddiolchgar i gael saib hanner amser.

Ail Hanner

Er i Ollie Watkins beidio â dychwelyd i'r cae doedd hi ddim yn ergyd fawr i Loegr gyda Marcus Rashford o Barcelona'n cymryd ei le.

Parhaodd y pwysau gan Loegr yn ystod 10 munud cyntaf yr ail hanner gyda Rogers yn bwrw'r postyn ar ôl creu cyfle yn llawer yn rhy hawdd.

Roedd Cymru'n well yn yr ail hanner, ac fe ddaeth eu cyfle cyntaf ar ôl 55 o funudau gyda Brooks ar ddiwedd croesiad ond Pickford yn ei atal yn dda.

Fe gafodd Saka ragor o gyfleoedd arweiniodd at Kieffer Moore yn rhoi ergyd galed arno.

Wrth agosáu at hanner awr olaf y gêm roedd Lloegr yn fwy na hapus i fod yn bwyllog ac roedden nhw'n edrych yn gyfforddus.

Dechreuodd yr eilyddion ar ôl 60 munud ac o safbwynt Cymru mi fyddai'r gêm hollbwysig yn erbyn Gwlad Belg nos Lun yng nghefn meddyliau pawb.

Fe lwyddodd Cymru gadw'r sgôr yn 0-0 yn yr ail hanner ond mi fyddan nhw'n siomedig iawn gyda'r goliau hawdd a ildiwyd yn ystod 20 munud cyntaf y gêm.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.