Tîm Cymru i ddangos undod gyda phobl â dementia yn Wembley

- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn dangos eu cefnogaeth drwy gerdded i'r cae ochr yn ochr â chefnogwyr sy'n byw gyda dementia yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yr wythnos nesaf.
Mae 22 o gefnogwyr wedi'u henwebu i gerdded allan yn Stadiwm Wembley ar 9 Hydref, o bob cwr o Gymru a Lloegr, gan gymryd lle'r plant sydd yn fasgotiaid traddodiadol.
Mae'r fenter wedi'i threfnu gan y Gymdeithas Alzheimer's a'r Gymdeithas Bêl-droed [FA] ac wedi'i chefnogi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru [CBDC].
Dywedodd llefarydd y Gymdeithas Alzheimer's y byddai'n noson "hanesyddol, gan ddangos cymaint o brofiadau gwahanol o ddementia a darparu moment arbennig i'n masgotiaid a'u teuluoedd".
Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol CBDC eu bod, yn y gymdeithas, yn "credu bod gan bêl-droed y pŵer unigryw i ddod â phobl ynghyd, i uno cymunedau, ac i daflu goleuni ar faterion pwysig fel dementia".
'Diolchgar am y profiad'
Yn ystod ail hanner y gêm, bydd chwaraewyr Cymru yn dychwelyd i'r cae heb eu henwau ar gefn eu crysau.
Gweithred symbolaidd fydd hon, i dynnu sylw at golli cof - un o symptomau mwyaf cyffredin dementia.
Ymhlith y rhai sydd wedi'u dewis i gerdded allan gyda thîm Cymru mae Chris Griffiths - cefnogwr brwd o Gaerdydd a Chymru sy'n byw gydag Alzheimer's.
Mae pêl-droed yn rhan fawr o fywyd Chris a dywedodd ei fab, Lee, bod y teulu yn "ddiolchgar iawn am y profiad y bydd yn ei gael yn Wembley".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd16 Medi