Ysgol yn apelio am feics wedi i bump gael eu dwyn

Beics
  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgol Rhosgadfan yng Ngwynedd wedi gwneud apêl i’r gymuned leol am roddion o unrhyw feics sbâr ar ôl i bum beic gael eu dwyn o’r ysgol dros gyfnod yr haf.

Ers sawl blwyddyn mae’r ysgol ar gyrion Caernarfon wedi bod yn buddsoddi mewn cynllun i hyfforddi pob disgybl i allu reidio beic er mwyn datblygu eu sgiliau.

Ond dros wyliau’r haf fe gafodd bump o feics mwya’r ysgol eu dwyn, a hynny’n golygu ar hyn o bryd nad oes modd i ddisgyblion yn yr ysgol ymarfer.

Yn ôl yr ysgol maen nhw wedi cysylltu â'r heddlu ynghylch y mater.

'Reidio beic yn rhywbeth mor bwysig

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru fe ddywedodd pennaeth Ysgol Rhosgadfan eu bod yn gweld gwerth buddsoddiad y cynllun beics.

“Pan ddes i i’r ysgol rhyw chwe mlynedd yn ôl ac oedd hi’n wythnos beicio i’r ysgol, buan iawn 'naethon ni ddarganfod mai nifer fechan iawn, iawn o blant oedd yn gallu reidio beic," meddai Judith Jones.

“Fel rhywun a gafodd ei magu yn y 70au, yn byw ar gefn fy meic a bron a bod, o'n i'n cymryd yn ganiataol fod o’n rhywbeth oedd pawb yn ei wneud."

Ar ôl sylwi nad oedd mwyafrif y disgyblion yn gallu reidio beic, fe benderfynodd yr ysgol ofyn am roddion o unrhyw hen feics sbâr er mwyn dysgu disgyblion.

“Mae’r oes wedi newid, lle mae bywyd yn brysurach i rai oedolion a falle dim gymaint o sgiliau ac awch gan rieni - pan ma' technoleg yn rheoli'n bywydau ni gyd - bod reidio beic yn rhywbeth mor bwysig."

Yn ôl Ms Jones, roedd modd troi mater negatif yn bositif, ac felly aeth yr ysgol ati i “hyrwyddo beicio fel addysg beunyddiol”.

Bellach mae pob un o’r 48 o blant sydd yn yr ysgol yn medru reidio beic, ac efo’r sgiliau angenrheidiol i ofalu am y beic hefyd.

'Trist'

Ond dros gyfnod yr haf, gyda phum beic wedi eu dwyn, mae’r ysgol unwaith eto yn gofyn am roddion.

“Trist ydi hynna de," meddai Ms Jones.

“Mae’r plant yn cael gwneud defnydd o le yr ysgol tu allan i oriau oherwydd ‘da ni’n teimlo ei fod o’n le diogel iddyn nhw chwarae yn hytrach na’r lonydd.

“Ond dros gyfnod yr haf mae pum beic mawr wedi mynd a rŵan does dim adnodd i helpu neb ym mis Medi fydd yn cychwyn os ydyn nhw dros wyth oed.

“Plîs felly, os oes gynno chi feic yn ista yn y sied dros amser hir, fe allwn ni roi gwasanaeth iddyn nhw ein hunain, a 'da ni’n edrych 'mlaen at eu cael nhw."

Pynciau cysylltiedig