Cadarnhau achos o'r frech goch yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae achos o’r frech goch wedi’i gadarnhau mewn unigolyn a fynychodd ysbyty yng ngogledd Cymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Roedd yr unigolyn sy'n byw yn Lloegr wedi mynychu Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae’r frech goch yn haint sy’n lledaenu’n hawdd iawn ac sy'n gallu achosi problemau difrifol i rai pobl.
Mae ICC yn cysylltu â'r rhai oedd mewn cyswllt agos â'r unigolyn, gan gynnig cyngor iechyd priodol.
Beth yw'r symptomau?
Mae 'na gyngor ar i rieni a gofalwyr sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn â dau ddos o'r brechlyn MMR er mwyn osgoi dal y frech goch.
Mae'r symptomau cynnar yn cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg a llygaid poenus, coch.
Gall smotiau gwyn bach y tu mewn i'r geg hefyd fod yn arwydd.
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Dywedodd ICC: “Os ydych chi’n meddwl y gallech chi neu’ch plentyn fod wedi methu'ch brechlyn MMR, gwiriwch eich cofnodion brechu trwy ofyn i’ch meddyg teulu neu wirio llyfr coch eich plentyn.
“Os nad ydych wedi cael y brechlyn MMR diweddaraf, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddygfa cyn gynted â phosibl."
Dylai bod unrhyw un sydd wedi ei adnabod fel cyswllt i’r achos yn yr ysbyty yng ngogledd Cymru wedi cael llythyr neu alwad ffôn yn barod.
Ychwanegodd ICC: “Os oeddech chi wedi mynychu’r ysbyty a heb dderbyn cyswllt gennym, nid oes angen i chi boeni."
Fis Ebrill, roedd achosion o'r haint wedi'u cadarnhau yn ne-ddwyrain Cymru, gyda ICC yn rhybuddio y gallai'r haint fod yn lledaenu.
Mae'r gwasanaeth iechyd, dolen allanol yng Nghymru'n rhybuddio ei bod hi'n bwysig peidio mynychu meithrinfeydd, yr ysgol neu'r gwaith am o leiaf pedwar diwrnod o'r adeg y mae'r frech yn ymddangos gyntaf.
Maen nhw'n nodi hefyd i osgoi cysylltiad agos â babanod, pobl feichiog a phobl â systemau imiwnedd gwan.
Yn ôl ICC, mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael y brechlyn MMR wedi gostwng ers dechrau pandemig Covid-19, gan olygu bod plant sydd heb eu brechu, neu eu brechu'n rhannol yn unig, heb eu hamddiffyn.
Mae hyn yn ôl ICC, yn golygu y gall arwain at gynnydd mewn achosion o'r frech goch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill