Trywanu Rhydaman: Canmol ymateb staff a disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi canmol staff, disgyblion a'r gymuned am y ffordd y gwnaethon nhw ymateb i achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.
Mae'r llu yn dweud bod swyddogion ychwanegol yn Rhydaman a Cross Hands dros y penwythnos, wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i'r achos.
Ddydd Gwener, ymddangosodd merch 13 oed yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio a cafodd ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc.
Dywedodd Richard Lewis bod "staff a disgyblion yn haeddu canmoliaeth".
"Mae angen canmol teuluoedd disgyblion a staff hefyd am beidio â chynhyrfu wrth iddyn nhw aros am newyddion yn dilyn y digwyddiad."
Fe ddywedodd bod "y gymuned gyfan" wedi dod at ei gilydd.
Fe gafodd dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ddydd Mercher.
Nid oedd yr anafiadau yn peryglu bywyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn y diwrnod canlynol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Bydd cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu yn Rhydaman a Cross Hands dros y penwythnos, wrth i swyddogion barhau i ymchwilio i'r digwyddiadau sydd wedi effeithio ar ysgolion yn yr ardal."
Mae'r llu yn dweud wrth bobl i siarad gyda swyddogion fydd ar y strydoedd "os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am y digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf".
"Os oes gan unrhywun wybodaeth a allai'n helpu ni gyda'n hymchwiliad, rydyn ni wedi creu adnodd arlein ac yn gofyn i bobl gofnodi unrhywbeth yno wrth i wybodaeth ein cyrraedd ni."
Yn y cyfamser, mae Ysgol Dyffryn Aman wedi sefydlu cronfa i Ambiwlans Awyr Cymru, i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith.
Mewn datganiad ar y dudalen, maen nhw'n dweud: "Yn dilyn y digwyddiad yr wythnos hon, mae nifer fawr o bobl wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn os gallant wneud cyfraniad.
"Rydym felly wedi penderfynu diolch i'r Ambiwlans Awyr am eu gwasanaeth gwych."
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
Ddydd Gwener, fe ddiolchodd yr athrawon gafodd eu trywanu i bobl am eu negeseuon o gefnogaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Fiona Elias, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol: "O waelod calon, hoffwn i a'r teulu ddiolch yn fawr iawn am yr holl negeseuon rydym ni wedi eu derbyn o bell ac agos yn ystod y diwrnodau diwethaf.
"Mae fy nyled yn fawr i'r Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans a staff y GIG yn Nhreforys am eu gofal arbennig a'u hymateb sydyn."
Aeth ymlaen i ddiolch am ofal yr Ambiwlans Awyr gan ddweud fod y digwyddiad yn "enghraifft arall o pa mor hanfodol ydy'r gwasanaeth yma i ni yng Nghymru".
Mewn datganiad ar wahân, dywedodd Liz Hopkin, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ei bod yn "diolch i bawb am y gefnogaeth yr wyf fi a fy nheulu wedi'i chael ers y digwyddiad ddydd Mercher.
"Mae fy nyled yn fawr i'r holl wasanaethau brys am eu hymateb cyflym ac am y gofal a roddwyd i mi ac eraill a gafodd eu cludo i'r ysbyty."