Ai beiciwr o Gymru oedd y twyllwr cyffuriau cyntaf?
- Cyhoeddwyd
Y sylwebydd chwaraeon, Gareth Rhys Owen, sydd wedi bod yn olrhain hanes un o fawrion seiclo Cymru, Arthur Linton o Aberaman, sy'n cael ei amau o ddefnyddio cyffuriau i ennill ras Bordeaux-Paris yn 1896.
Y Pencampwr Byd o Aberaman
Mae yna blac uwchben fferyllfa yn Aberaman, Cwm Cynon sy’n nodi campau un o fawrion chwaraeon Cymru. Hyd yn oed os ydych chi’n sylwi ar y plac, mae’n bur debygol nad oes gennych syniad am hanes rhyfeddol y gŵr sydd o dan sylw.
Dywed y geiriau ar y plac:
“Arthur Linton 1872-1896: Bu Pencampwr Beicio’r Byd 1895 yn byw yma”
Cymro oedd yn bencampwr byd! Credwch chi fi, dyna hanner y stori...
Bu farw Arthur Linton y 27 oed yn 1896, ddeufis wedi iddo ennill ras undydd Bordeaux-Paris.
Ganrif yn ddiweddarach fe awgrymodd adroddiad gan yr IOC (y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol) mai dyma oedd yr enghraifft gyntaf o farwolaeth oherwydd defnydd cyffuriau i wella perfformiad. Mae’r amheuaeth a’r ansicrwydd ynglŷn â bywyd Arthur Linton yn parhau hyd heddiw.
Ganwyd Arthur Linton yng Ngwlad yr Haf yn 1868, a phan oedd e'n dair oed symudodd y teulu i Aberaman ar gyrion Aberdâr.
Erbyn ei ugeiniau roedd yn feiciwr o safon, yn ennill rasys ar draws Cymru a Lloegr. Yn 1893 fe gwrddodd â'r hyfforddwr James “Choppy” Warburton, rhywbeth a drawsnewidiodd ei fywyd.
Y flwyddyn ganlynol fe dorrodd record 100km y byd ar sawl achlysur a bathwyd y llysenw 'Pencampwr y Byd'.
Nid oedd y sylw yma at ddant pawb; cafodd Linton ei feirniadu’n hallt gan feiciwr arall o Aberaman, Jimmy Michael, a bu’r gelyniaeth rhyngddynt yn destun trafod yn nhudalennau cefn y papurau newydd.
Roedd Linton a Michael yn sêr a fyddai'n denu torfeydd o filoedd. Honnodd Michael flynyddoedd yn ddiweddarach ei fod yn medru hawlio $30,000 am ychydig fisoedd o rasio.
Ras Bordeaux-Paris
Er i Arthur Linton gael flwyddyn heriol yn 1895, roedd yn ôl ar frig y podiwm yn '96.
Gyda 600km yn gwahanu Bordeaux a Paris, prin fyddai neb â diddordeb mewn teithio rhwng y dinasoedd ar gefn beic. Llai fyth fyddai eisiau rasio’r daith mewn diwrnod.
Am bron i ganrif roedd ras undydd Bordeaux-Paris yn un o uchafbwyntiau’r calendr beicio ac yn cael ei ystyried fel un o’r chwe phrif ras, fel Milan-San Remo a Paris-Roubaix.
Fe orffennodd Arthur Linton yn bedwerydd yn Paris-Roubaix 1896 ac roedd yn cael ei ystyried yn un o’r ffefrynnau ar gyfer Bordeaux-Paris.
Roedd hi’n ras arteithiol gyda Linton yn croesi’r llinell derfyn gyntaf mewn naw awr, 17 munud ac 18 eiliad. Ychydig dros funud yn ddiweddarach fe orffennodd y Ffrancwr Gaston Rivierre yn yr ail safle.
Roedd Rivierre yn gandryll gan gyhuddo Linton o dwyllo. Roedd honiad fod y Cymro wedi symud oddi ar y cwrs swyddogol wrth ddefnyddio’r bont anghywir i groesi’r afon Seine.
Er bod Linton a’i hyfforddwr Warburton yn cydnabod y camgymeriad, darganfuwyd mai’r beicwyr o Ffrainc yn unig oedd wedi cael y map diweddaraf o’r cwrs.
Y cyfaddawd terfynol oedd i gyhoeddi bod Linton a Rivierre yn gydradd fuddugol.
Nododd sawl newyddiadurwr bod Linton yn edrych yn ofnadwy ar ddiwedd y ras ac yn yr wythnosau a ddilynodd fe ddirywiodd ei iechyd. Ddeufis yn ddiweddarach bu farw, gyda Teiffoid yn cael ei nodi fel achos y farwolaeth.
Cyffuriau ar fai?
A dyna ddiwedd y stori… Nes ein bod ni’n ail-ymweld â’n hen ffrindiau Jimmy Michael a Choppy Warburton
Rai misoedd yn ddiweddarach cafodd Warburton ei gyhuddo gan Michael o’i wenwyno. Roedd hi’n hen stori bod Warburton yn cario botel fechan ddu y byddai’n ei rhoi i feicwyr blinedig.
Honnodd Michael bod y ffisig wedi gwaethygu ei berfformiad. Mewn ymateb fe fynnodd Warburton iawndal am enllib.
Er nad oedd defnyddio cyffuriau yn erbyn y rheolau roedd yn erbyn egwyddor y gamp ac o ganlyniad i’r sgandal cafodd Warburton ei wahardd o’r gamp ac fe alltudiwyd Michael i America i rasio.
Fel Linton mae yna drasedi i hanes Jimmy Michael a wastraffodd ei gyfoeth ar geffylau a casinos cyn troi at y botel. Roedd Michael hefyd yn 27 pan fu farw yn 1904, a hynny o sgil effeithiau alcohol.
Does yna ddim prawf cadarnhaol bod Arthur Linton wedi cymryd cyffuriau i wella’i berfformiadau ond mae yna sawl adroddiad gan lygaid-dystion yn y ras yn awgrymu bod ei gyflwr wedi gwella’n wyrthiol o ganlyniad i’r ffisig a dderbyniodd gan Warburton.
Mae yna rai awgrymiadau mai’r cemegyn strychnine oedd yn y botel, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i wenwyno llygod mawr, ond sydd hefyd yn cryfhau cyhyrau.
Mae’n annhebygol y byddwn ni byth yn gwybod beth yn union ddigwyddodd i Arthur Linton, ac mae yna eironi creulon bod ei blac bellach yn eistedd uwchben busnes sy’n arbenigo mewn cyffuriau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021