Ceisio helpu eraill gan fod 'neb yn gofyn sut mae dad?'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad.
Mae dyn o Fangor a wnaeth geisio lladd ei hun chwe wythnos ar ôl genedigaeth ei ail blentyn yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar dadau yng Nghymru.
Yn 2021 fe ddioddefodd Aled Vaughan Edwards o Fangor gyda’i iechyd meddwl gan geisio dod a’i fywyd i ben.
“O'n i’n flin, just yn teimlo bod fi methu gwneud digon ac o'n i’n meddwl 'sa pawb gwell off hebdda fi.”
Ar ôl derbyn cefnogaeth a thriniaeth mae o rŵan wedi sefydlu menter newydd i helpu tadau a’u teuluoedd yn y gogledd-orllewin.
Yn dad i ddau o blant, Sulli a Bea, mae Aled yn sôn am ei falchder a’i gariad o fod yn dad, ond yn dweud iddo ddioddef yn fawr gyda heriau iechyd meddwl.
"Tua chwech wythnos oedd hi ar ôl i hi [Bea] gael ei geni es i off a nesi trio cymryd bywyd fy hun", meddai.
"O'n i wedi cyrraedd pwynt lle oni’n teimlo... bob dim o'n i’n neud... doedd o ddim yn ddigon i’r plant neu i’r wraig ac o'n i’n flin efo fy hun.
“Hyd yn oed os oeddwn i yn codi ganol nos, newid nappies, yn helpu fel bod fy ngwraig ddim gorfod ond doedd o dal ddim yn ddigon i fi, felly o'n i wir yn meddwl 'sa pawb yn well hebdda fi."
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod mae’n dweud mai ei fab, Sulli wnaeth ei atal rhag dod â’i fywyd i ben.
"Ddoth o ata i y bore yna a nath o roi ei fraich rownd fi a rhoi hug imi am ddim rheswm.
"Hwnna nath stopio fi, nid meddwl bod o am dyfu fyny heb dad ond gwybod 'swn i byth yn teimlo y cariad yna eto, cael rhywun sy’n meddwl gymaint ohona chdi, felly nes i ffonio doctor ac es i syth i A&E a cael triniaeth yna."
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd 74% o'r holl hunanladdiadau yn 2022 yn ddynion.
Mae ystadegau hunanladdiadau tybiedig rhwng 2022-2023 y gwasanaeth iechyd hefyd yn nodi fod y gyfradd ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35-44 oed.
Ar ôl derbyn triniaeth a chefnogaeth gan aelodau proffesiynol a’i deulu a’i ffrindiau, mae o rŵan yn canolbwyntio ar fenter newydd i helpu dynion ifanc a thadau sy’n dioddef.
Sut mae dad?
Enw’r fenter ydi ‘Sut mae Dad?', a dywedodd Aled: "Does neb yn gofyn y cwestiwn, sut mae dad?
"Pan 'nes i fynd drwy beth 'nes i, 'nath neb holi fi sut o'n i fel dad, hyd yn oed professionals, nath neb ofyn i mi ydw i'n iawn?
"Do, gofyn i’r wraig wrth gwrs ond just un conversation yn holi, wyt ti’n iawn, wyt ti angen help?"
Mae’r fenter newydd yn dod â thadau o’r ardal at ei gilydd i fynd am dro anffurfiol, i siarad ac i rannu pryderon.
Mae Aled yn dweud ei fod yn gobeithio "os byddai wedi helpu un dad, fyddai wedi gadael y byd mewn gwell stad na ddes i mewn iddo”.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.