Pwy sy'n ymgeisio yn yr etholiad Comisiynwyr Heddlu?
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgeiswyr wedi'u cadarnhau ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar 2 Mai.
Mae'r pedair prif blaid yng Nghymru - Llafur, Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - yn sefyll.
Dyma fydd yr etholiad cyntaf yng Nghymru ble bydd rhaid i bobl ddangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisio.
Does dim ymgeiswyr annibynnol nac ymgeiswyr o'r blaid Werdd na Reform yn sefyll.
Dyma'r unig etholiad sy'n cael ei gynnal yng Nghymru ar 2 Mai - yn wahanol i Loegr, ble mae yna etholiadau ar gyfer cynghorau lleol hefyd.
Mae dau o’r Comisiynwyr presennol yn rhoi’r gorau i’w swyddi eleni – Alun Michael dros Lafur yn Ne Cymru a Jeff Cuthbert y Comisiynydd Llafur yng Ngwent.
Beth yw rôl Comisiynwyr Heddlu?
Sefydlwyd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn 2012 gan lywodraeth David Cameron.
Mae'r comisiynwyr yn gyfrifol am oruchwylio heddluoedd yng Nghymru a Lloegr a'u dwyn i gyfrif, ac maent yn gosod y gyllideb flynyddol ar gyfer pob ardal.
Nid ydynt yn gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â gwaith dydd i ddydd yr heddlu.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
Yng Nghymru mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, un ar gyfer pob ardal blismona - De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys, a Gogledd Cymru.
Mae'r comisiynwyr ymhlith y swyddogion etholedig sy'n derbyn y cyflogau gorau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd yn Ne Cymru mae Alun Michael yn cael £86,700.
Mae Jeff Cuthbert yng Ngwent yn derbyn £73,302, tra bod comisiynydd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cael £73,300.
Mae Comisiynydd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn ennill cyflog o £68,200 y flwyddyn.
Dangos dogfen adnabod
Am y tro cyntaf bydd angen dangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisio.
Ymysg y dogfennau y gellir ei ddefnyddio mae pasbort Prydeinig, trwydded yrru, cerdyn teithio rhatach 60 oed a hŷn, cerdyn teithio rhatach person anabl, neu gerdyn adnabod y cynllun safonau prawf oedran (cerdyn PASS).
Mae bellach angen defnyddio cardiau adnabod mewn etholiadau sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ar gyfer San Steffan.
Nid oes angen unrhyw brawf ar gyfer etholiadau’r Senedd, na chynghorau Cymru.
Dyma'r eildro i etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd gael eu cynnal yng Nghymru heb unrhyw bleidleisiau eraill yr un pryd.
Y tro diwethaf oedd yr etholiad cyntaf yn 2012, a bryd hynny 14.9% oedd y ganran a bleidleisiodd ar draws Cymru.
Pwy sy'n ymgeisio?
Ymgeiswyr Gwent
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig
Jane Mudd, Llafur Cymru
De Cymru
Sam Bennett, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru
Dyfed-Powys
Justin Griffiths, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru
Gogledd Cymru
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig
David Richard Marbrow, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru