Manon Lloyd Williams: Gwisgo crys Cymru mewn tair camp yn 'swreal'

  • Cyhoeddwyd
Manon ac ElainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon a'i merch Elain, sy'n 17, yn chwarae i dîm cyntaf hoci Caernarfon

I lawer, byddai cynrychioli eu gwlad mewn un camp yn lwyddiant a allai gymryd blynyddoedd o ymarfer a pharatoi.

Ond i Manon Lloyd Williams doedd un camp ddim yn ddigon, ac mae bellach wedi cyrraedd y brig mewn tair camp gan chwarae pêl-droed, rygbi a hoci dros Gymru.

A hithau wedi chwarae hoci dros Gymru yn Gibraltar eleni, mae'n paratoi i gynrychioli ei gwlad eto yn Iwerddon ym mis Mai.

Yn ôl Manon, sy'n 45 oed ac o Lanberis, "mae chwaraeon yn y gwaed", ond mae'n dweud bod chwarae i'w gwlad mewn tair camp yn "swreal" a'i bod hi'n "gweithio'n galed a wastad yn anelu at wbath newydd".

Bellach mae hi a'i merch, Elain, yn chwarae hefo'i gilydd i dîm cyntaf hoci Caernarfon, ac yn ogystal â hynny, mae'n ffisiotherapydd yn Ysbyty Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Manon hefo'i thad, Iwan, wrth ennill ei chap cyntaf gyda thîm rygbi Cymru

Mae Manon yn cael ei hadnabod fel Manon 'Jiws' ar ôl ei thad, y diweddar Iwan Lloyd Williams.

"O'dd Dad yn rheoli tîm pel-droed Llanberis am ryw 15 mlynedd felly o'n i'n cael fy llusgo i wylio'r gemau ac o'dd fy mrodyr Marc a Cai yn chwarae hefyd."

Ei brawd, Marc Lloyd Williams, sydd wedi sgorio'r nifer uchaf o goliau yn hanes prif gynghrair Cymru - gyda 319 o goliau.

Athletau oedd diddordeb Manon tra'r oedd hi yn yr ysgol. Roedd hi'n chwarae pêl-droed yn Llanberis, ond doedd 'na ddim tîm merched.

Pan oedd hi'n 13 oed, dechreuodd chwarae i glwb Bangor.

Dywedodd wrth raglen Dros Ginio Radio Cymru: "Roedd rheolwr wedi dod draw i wylio athletau un dydd Sul yn chwilio am chwaraewr ar gyfer tîm newydd ac yn amlwg roedd o'n chwilio am rywun odd yn gallu rhedeg felly nath o ofyn os swn i'n ymuno efo Bangor City - y tim cyntaf merched - felly o'n i efo nhw am flynyddoedd ac ennill dipyn o gwpanau a ffeinals Cwpan Cymru."

Ffynhonnell y llun, Tîm pêl-droed merched Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Manon (trydydd o'r dde yn y rhes ganol) yn aelod o dîm pêl-droed merched Bangor fu'n chwarae yn Ewrop ar ddechrau'r 2000au

Enillodd Manon ei chap cyntaf dros Gymru i'r tîm dan-20 tua'r un adeg yr enillodd cyn-reolwr Cymru, Jane Ludlow, ei chap cyntaf hi, ac aeth ymlaen i chwarae i dîm cyntaf Cymru.

Ond fe gafodd anaf yn 2001, a dyna arweiniodd at ei diddordeb go iawn yn y bêl hir-gron.

"Es i i Awstralia am gwpl o wsnosa' a phan ddes i yn ôl, ges i fy haslo i fynd i training rygbi efo Clwb Rygbi Caernarfon a nes i ddechra' chwarae rygbi efo Caernarfon", cyn mynd ymlaen i chwarae i dîm merched Cymru rhwng 2003-2006.

Cafodd ei merch, Elain, ei geni yn 2006 ac roedd hi'n mynd i wylio ei mam yn chwarae o oed ifanc iawn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae merch Manon, Elain, wedi mwynhau mynd i gefnogi ei mam ers iddi fod yn blentyn

Wrth i'r blynyddoedd basio, trodd Manon ei golwg at gamp arall, un nad oedd wedi bod ar frig ei rhestr yn wreiddiol - hoci.

"O'n i'n chwarae yn nhîm hoci'r ysgol ac yn mwynhau chwarae i Glwb Caernarfon. O'n i'n eitha hwyr yn dechra chwara' hoci oherwydd o'n i'n rhy brysur efo pêl-droed a rhedeg a ballu.

"Yr hoci oedd ar waelod y list i ddechrau ond dwi'n chwarae mwy ers i fi fynd yn hŷn a finnau mor brysur hefyd yn mynd ag Elain i wersi nofio, rygbi a hoci."

Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Manon Lloyd Williams gôl tra'n chwarae hoci dros Gymru yn Gibraltar

Mae hi bellach rhan o dîm dros-45 oed Cymru: "O'n i ddim yn gwybod bod y ffasiwn beth yn bodoli tan tua dwy flynedd yn ôl i fod yn onast.

"Chwarae hoci i Gaernarfon o'n i a wedyn ma' 'na dwrnament bob blwyddyn ac o'dd un o'r genod odd yn chwarae i Gaernarfon wedi deud wrtha' i i fynd i'r treialon.

"Nes i feddwl tro ma dylwn i fynd i weld be ydi o a nes i enjoio fo a ges i fy newis i fynd i Gibraltar i chwarae dros Gymru."

Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd tîm dros-45 Cymru eu dwy gêm yn Gibraltar ym mis Mawrth

Cafodd Manon a gweddill y tîm lwyddiant yn Gibraltar, gan ennill eu dwy gêm - a Manon yn sgorio gôl yn y gêm gyntaf.

Ym mis Mai, mi fyddan nhw'n chwarae yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn Cork.

Dywedodd Clwb Hoci Merched Caernarfon: "Rydym yn hynod falch ohonat. Mae llwyddo i gael cap Cymru yn dipyn o gamp, ond ti bellach yn chwaraewraig rhyngwladol mewn tair camp gwahanol!"

'Dwi wastad yn anelu at y peth nesa'

Mae Manon yn falch o weld merched yn cael mwy o gyfleoedd a sylw yn y byd chwaraeon.

"Ma' lot mwy o sylw i chwaraeon merched ar social media a ma'n grêt bod y Six Nations merched ar y teledu.

"Ma'n bwysig rhoi cyfle i bawb fod yn rhan o rywbeth sy'n cadw nhw'n ffit. Mae'n gyfle i gymdeithasu hefyd a ma hynna'n reallypwysig."

"Dwi 'di bod yn lwcus achos dwi'n fast... ond dwi'n gweithio'n galad a wastad yn anelu at y peth nesa'.

"Dwi o hyd yn meddwl be' 'di'r peth nesa' dwi'n gallu anelu ato tra dwi'n medru achos dwi'n gwybod bydd raid i fi stopio ar rhyw bwynt."

Ffynhonnell y llun, Clwb Hoci Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon a'i merch Elain yn chwarae i glwb hoci Caernarfon

Gyda Manon bellach ar yr un tîm a'i merch Elain, sy'n 17, sywedodd bod y ddwy "wrth eu boddau ac yn treulio lot o amser yn mynd yn y car i lefydd i chwarae".

"Dwi'n licio ei gwylio hi'n chwarae ac ma' hi'n gystadleuol ac yn enjoio fel fi.

"Ma' Elain wastad wedi cael diddordeb mewn chwaraeon hefyd."

Gobaith nesaf Manon ydy cystadlu mewn her IronMan cyn iddi droi'n 50, ond mae'n dweud ei bod "yn brysur rhedeg allan o amser".

Un o'i diddordebau eraill ydy teithio ac mae hi ac Elain eisoes wedi bod yn Awstralia, ac wedi dechrau trefnu eu hantur nesaf hefo'i gilydd.

Pynciau cysylltiedig