Dysgu i ymdopi ar ôl colli gŵr mewn damwain ddringo

Steffi HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Steffi Hughes ei gŵr Liam mewn damwain ddringo yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Blwyddyn ar ôl colli ei gŵr mewn damwain ddringo, bydd dynes o Sir y Fflint yn cerdded 15 copa uchaf Cymru i godi arian i'r bobl a geisiodd ei achub.

Bu farw Liam Hughes, 42, mewn damwain tra'n dringo ger Llangollen ar 7 Mehefin 2023.

Symudodd Steffi Hughes, 37, o Sir Caer i ardal Sychdyn bron i 10 mlynedd yn ôl gyda Liam, a hynny er mwyn bod yn nes at eu "lle arbennig" - Eryri.

Ers y digwyddiad, mae Steffi wedi rhoi'r gorau i ddringo ond yn dal i gadw'n heini drwy gerdded a seiclo.

Mae bod yn yr awyr agored wedi bod yn "hanfodol" iddi ymdopi â'i cholled, ac mae hi'n dal yn "teimlo presenoldeb" ei diweddar ŵr wrth groesi ei hoff fynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Liam, o Brestatyn yn wreiddiol, yn ddringwr profiadol oedd yn caru bod allan ar y mynyddoedd

"Dwi'm yn cofio'r wythnosau cyntaf [ar ôl colli Liam] yn iawn i ddweud y gwir, mae o'n bach o blur," meddai Steffi.

"Dwi 'di gorfod ffeindio rhyw fath o normalrwydd eto, ac ymarfer corff 'di'r ffordd i fi - a seiclo'n enwedig.

"Gen i lot o deimladau yn fy mhen ac mae ymarfer corff yn ryw fath o coping mechanism."

Mae Steffi'n fam i ddau o blant ifanc, sy'n ei chadw hi'n "ddigon prysur", yn ogystal â'i busnes, Tŷ Gwyn Reflexology.

"Does gen i'm dewis ond i gario 'mlaen gyda fy mywyd," meddai.

"Yn ffodus i fi, gen i bethau i ganolbwyntio arnyn nhw, ac mae hynna a'r holl gefnogaeth gan ffrindiau a theulu - a'r gymuned hyfryd yn Sychdyn - wedi cadw fi fynd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffi fod Liam wedi "cerdded allan o'r tŷ a wnaeth o byth ddod yn ôl"

Cafodd Steffi alwad ar ôl y ddamwain, tra roedd y tîm achub mynydd a'r ambiwlans awyr yn ceisio achub Liam.

Dywedodd ei bod ar ben arall y ffôn tra roedd hyn yn digwydd, ac roedd clywed yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn y cefndir yn "ofnadwy o drawmatig i ddweud y lleiaf".

"Wnaeth o gerdded allan o'r tŷ a wnaeth o byth ddod yn ôl," meddai Steffi.

"O'n i'n gorfod eistedd fy mhlant i lawr ac egluro iddyn nhw be' oedd wedi digwydd.

"Fyswn i'm yn dymuno hynny ar unrhyw un - roedd o'n beth erchyll i orfod 'neud."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffi ei bod yn "gobeithio gallu pasio 'mlaen i'm mhlant faint oedd Liam a fi'n caru'r mynyddoedd"

Er pa mor anodd oedd y diwrnod yna i Steffi a'i phlant, dywedodd ei bod hi ddim yn drist wrth feddwl am ei gŵr.

"Dwi mor ddiolchgar am yr amser ges i hefo fo. Roedd o'n berson anhygoel.

"Mae'r tŷ'n llawn lluniau ohono fo a 'dan ni'n siarad amdana fo bob diwrnod, a'n eistedd yn gwylio fideos a phethau fel'na.

"Mae'n bwysig 'di'r plant ddim yn anghofio fo, ond er eu bod nhw'n ifanc, mae ganddyn nhw gymaint o atgofion hapus iawn ohono fo.

"Lot ohonyn nhw o fod allan ar y mynyddoedd - a 'dan ni dal yn gwneud pethau fel 'na hefo ein gilydd, ond m'ond fi sydd hefo nhw rŵan.

"Gobeithio fydda i'n gallu pasio 'mlaen i'm mhlant faint oedd Liam a fi'n caru'r mynyddoedd a gwario gymaint o amser a phosib yn ein lle arbennig ni - Eryri."

Pynciau cysylltiedig