Anafiadau difrifol i ddau blentyn mewn gwrthdrawiad
![Gwrthdrawiad Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/66e7/live/d7fdc570-2d45-11ee-bd47-5d47a9736521.jpg)
Roedd pedwar o gerbydau'n rhan o'r gwrthdrawiad, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys
- Cyhoeddwyd
Mae dau o blant ac oedolyn wedi eu hanafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar o gerbydau ger Llanelli fore Gwener.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu galw i ffordd y B4309 rhwng Ffwrnes a stâd dai Maengwynne ar ôl 09:30.
Ychwanegodd y llu fod y tri pherson wedi eu cludo i'r ysbyty.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub fod un person wedi ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi gorfod tynnu un person oedd wedi ei anafu o gerbyd.
Roedd cyfanswm o chwech o bobl yn rhan o'r digwyddiad, ychwanegon.
Fe gafodd pump o griwiau tân ac achub - o Lanelli, Rhydaman, Pontiets, Pontarddulais a Chaerfyrddin - eu galw i'r digwyddiad.
Cafodd y ffordd ei chau ar ôl y gwrthdrawiad.