Banc Lloegr yn gostwng cyfraddau llog i 5%

Banc Lloegr sy'n gosod cyfraddau llog
- Cyhoeddwyd
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi eu bod yn torri cyfraddau llog o 5.25% i 5%, y cwymp cyntaf ers Mawrth 2020.
Mae'n bosib y gallai'r gostyngiad yma arwain at brisiau morgais rhatach i rai.
5.25% oedd y gyfradd uchaf mewn 16 o flynyddoedd, a gafodd ei osod mewn ymgais i daclo'r cynnydd mewn prisiau ar draws y DU.
Y tro diwethaf i'r cyfraddau gael eu gostwng oedd yn nyddiau cynnar y pandemig er mwyn ceisio hybu'r economi.
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
Mae naw aelod ar bwyllgor ariannol Banc Lloegr, ac fe bleidleisiodd pump o'r aelodau hynny o blaid y gostyngiad.
Saith i ddau o blaid sefyll yn yr unfan oedd canlyniad y bleidlais nôl ym mis Mehefin.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves: "Er bod y gostyngiad yma mewn cyfraddau llog yn rhywbeth i'w groesawu, mae miliynau o deuluoedd yn dal i wynebu costau morgeisi uwch.
"Dyna pam fod y llywodraeth yma yn gwneud y penderfyniadau anodd nawr er mwyn trwsio sylfaen ein heconomi wedi blynyddoedd o dwf isel, fel bod modd ailadeiladu Prydain, er lles pob rhan o'r wlad."
Ymgynghorydd ariannol annibynnol yw Steph Jones, ac mae hi'n gyn-reolwraig banc.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd: "Mae'n golygu bod cost morgeisi yn dod lawr, cost cardiau credyd, ond i bobl sy'n cynilo fel ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwetha', 'dyn nhw ddim wedi gallu gwneud fawr o'u harian a nawr mae'r naw mis diwetha' wedi bod yn grêt i weld eu harian yn tyfu."
Mae Banc Lloegr yn sefydliad annibynnol, a'u tasg - a osodwyd gan y llywodraeth - yw cadw chwyddiant o dan 2%.

Mae gostyngiad i gyfraddau llog yn newyddion da i bobl sy'n benthyg arian, medd Steph Jones
Ond wrth i chwyddiant godi'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf am sawl rheswm, Covid a rhyfel Wcráin yn eu plith, fe fu'n rhaid i'r banc godi'r gyfradd sail.
Yn Hydref 2022 fe ddringodd chwyddiant i dros 11% - y lefel uchaf ers 1981.
Dros y 12 mis diwethaf mae chwyddiant wedi gostwng tua 4%, gan gyrraedd 2% ym mis Mai.
Ond mae chwyddiant yn y sector gwasanaethau a lletygarwch - diwydiannau fel adwerthu ac adloniant - mae chwyddiant wedi para'n stwbwrn o uchel ar 5%.
'Effaith Taylor Swift'

Fe wnaeth cyngerdd Taylor Swift ddenu degau o filoedd o bobl i Gaerdydd ym mis Mehefin
Fis Mehefin fe gynhaliodd y seren o America, Taylor Swift, gyngerdd yng Nghaerdydd - un o 10 o leoliadau ar ei thaith Eras ar draws y Deyrnas Unedig.
Roedd 70,000 o bobl tu fewn i Stadiwm y Principality a miloedd yn rhagor tu fas - gyda bwytai, gwestai a systemau trafnidiaeth yn llawn wrth i bobl wario.
Ar draws 10 cyngerdd, mae hynny'n agos at filiwn o bobl.
Y math yna o alw a gwario sydd wedi cyfrannu, medd economegwyr, at chwyddiant y sector gwasanaethau yn para'n uchel.
Mae rhai economegwyr o'r farn y gallai chwyddiant godi eto'n ddiweddarach eleni yn sgil codiadau cyflog yn y sector gyhoeddus sydd wedi cael sêl bendith y Canghellor newydd Rachel Reeves.

Cyhoeddodd Rachel Reeves godiadau cyflog i weithwyr sector gyhoeddus ddydd Llun
Mae Steph Jones yn cydnabod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i gyllidebau pawb.
"Nid dim ond benthyg arian, ond costau byw, popeth yn cynyddu, biliau tŷ, bwyd, pethau'n gyffredinol," meddai.
"Mae'r pedair blynedd ddiwetha' wedi bod yn anodd."