'S’dim iws i fi boeni' am gyfraddau llog

Disgrifiad,

Ein gohebydd Sara Rowlands oedd yn holi barn pobl Llanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd

Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi y bydd cyfraddau llog yn parhau ar 5.25%, y lefel uchaf ers 16 mlynedd.

Pleidleisiodd saith aelod o'r pwyllgor sy'n gosod cyfraddau llog i gadw'r gyfradd ar y lefel bresennol, gyda'r ddau arall yn ffafrio gostyngiad.

Mae cyfradd chwyddiant yn y Deyrnas Unedig wedi disgyn i 3.2%, ond dal yn uwch na tharged y banc o 2%.

Dywedodd rheolwr Banc Lloegr, Andrew Bailey, bod angen "rhagor o dystiolaeth" bod chwyddiant yn arafu cyn gostwng cyfraddau.

Yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau, cymysg oedd yr ymateb, gyda rhai fel Margaret o Dregaron, yn falch "bod nhw ddim wedi mynd lan".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n waeth ar y rhai ifanc," meddai Margaret o Dregaron

"Dwi yn gweld siopa yn ddrud. Ma’n waeth ar y rhai ifanc, s’dim iws i fi boeni!"

Dywedodd Tony Tulett o Henllan: "Mae pethau wedi mynd lan ond os wyt ti’n siopa yn y llefydd cywir chi dal yn gallu cael bargeinion!"

"Unwaith chi’n gweithio mas eich pensiwn a faint o filiau mae angen talu mae chwarter eich pensiwn wedi mynd. Mae prisau trydan wedi mynd trwy’r to.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joanne yn helpu ei mab gyda chostau, a ddim yn gweld sut all bobl ifanc fforddio prynu pethau

Mae Joanne o Lanbed yn "meddwl lot yn fwy" am yr hyn mae'n ei brynu:

"Mae fy mab yn rhenti, dwi’n gorfod talu ei rhent gam fod angen help arno.

"Dwi’n ffodus dwi wedi talu fy morgais ond dwi ddim yn deall sut gall pobl sy’n prynu am y tro cyntaf fforddio pethau. Hyd yn oed rhenti a safio yr un pryd."

Pynciau cysylltiedig