Galw am wahardd e-sigaréts untro yng ngwyliau Cymru

E-sigarétFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ash Cymru o’r farn bod vapes untro yn arf bwysig i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen amgylcheddol wedi galw ar ddigwyddiadau a gwyliau yng Nghymru i wahardd e-sigaréts, neu vapes, untro.

Daw hyn wedi i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr alw am eu gwahardd yn llwyr erbyn 2024.

Dywedodd Cadwch Gymru’n Daclus wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn “broblem sydd wedi tyfu yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf".

Tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn edrych ar ffyrdd i'w gwneud hi’n haws i ailgylchu eitemau o’r fath, mae Ash Cymru o’r farn bod vapes untro yn arf bwysig i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Derbyshire yn galw ar sefydliadau a gwyliau i ystyried gwahardd e-sigaréts untro

“Un peth fyswn i wir yn croesawu yw bod sefydliadau a gwyliau yn ystyried gwahardd vapes untro,” meddai Owen Derbyshire, prif weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.

Fe wnaeth arolwg gan yr elusen ganfod vapes untro ar 20% o strydoedd Caerdydd eleni, a 6% o strydoedd Abertawe y llynedd.

“Ry'n ni fatha sefydliad ddim yn erbyn vapeio - y broblem sydd gennym ni, oherwydd y plastig caled a’r batris o fewn y vapes, ni’n gweld yr effaith uniongyrchol ar ein hamgylchedd, ar ein bywyd gwyllt a bioamrywiaeth Cymru," meddai Mr Derbyshire.

“Ma' hwn yn broblem sydd 'di tyfu yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Sioe Frenhinol yn gwahardd plastig untro am y tro cyntaf yr wythnos nesaf

Fis diwethaf ychwanegodd gŵyl Glastonbury vapes untro i’w rhestr o bethau i beidio â dod i’r ŵyl, ac yng Nghymru mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud eu bod nhw'n adolygu eu rhestrau o bethau sydd wedi'u gwahardd cyn y digwyddiadau eleni.

Fel rhan o bolisi gwyrdd ehangach, bydd y Sioe Frenhinol yn gwahardd plastig untro am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

“Ni yn y broses o ddatblygu polisi newydd, gan annog ein stondinwyr ac arlwywyr i dorri ar y defnydd o blastig a defnyddio pecynnau sy’n hawdd i’w compostio a’u hailgylchu,” eglurodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr y Sioe Frenhinol.

“Yr uchelgais yw sicrhau ein bod ni’n niwtral o ran effaith ar yr amgylchedd, a ma’ hynny’n golygu fod pobl yn gorfod dod gyda ni ar y siwrne yna.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Rhys Jones y bydd y Sioe Frenhinol yn adolygu eu polisi ar vapes ar gyfer y dyfodol

Fel rhan o’r polisi mae holl drydan y maes bellach hefyd yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae’r gymdeithas wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o gynaliadwyedd amgylcheddol y digwyddiad.

“‘Dan ni’n ymwybodol bod digwyddiadau eraill wedi cymryd safbwynt cadarn ar vapes. ‘Da ni’n mynd i edrych yn fanwl ar hyn wythnos y sioe," meddai Mr Jones.

“Ma’ ‘na lwyth o bethau allwn ni wneud fel Cymdeithas Amaethyddol, fel sioe, i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

"Ond pa fesurau sy’n mynd i wneud yr effaith fwya', a falle byddwn ni yn edrych ar beth yw’n polisi ni ar gyfer vapes wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.”

'Y brif ddyfais i stopio ysmygu'

Ond yn ôl elusen sy'n helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, mae angen ystyried buddion vapes untro.

Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr Ash Cymru: “Rydym yn deall y pryderon am effaith amgylcheddol vapes untro, ond ein pryder ni yw’r canlyniadau fyddai unrhyw fath o waharddiad yn ei gael ar y bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu.

Vapes yw'r brif ddyfais i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu.

“Dylai unrhyw le lle mae pobl yn ymgynnull mewn niferoedd mawr gael mannau ailgylchu ar gyfer eitemau tebyg, oherwydd pan ma’ nhw’n cael eu hailgylchu'n iawn - yn yr un modd â batris - ma’ nhw’n llai niweidiol i'r amgylchedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adolygu'r gofynion cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar lefel y DU o ran gwastraff electroneg gan gynnwys vapes.

"Byddwn yn edrych ar ffyrdd o gynyddu casglu gwastraff trydanol bach o gartrefi a busnesau i'w gwneud yn haws i bobl ailgylchu'r eitemau hyn."