Cyngor Ceredigion i godi premiwm treth ail gartrefi i 100%
- Cyhoeddwyd
Bydd perchnogion ail gartrefi yng Ngheredigion yn talu cyfradd dreth gyngor ddwbl o fis Ebrill ymlaen.
Mewn cyfarfod llawn ddydd Iau, cytunodd Cyngor Sir Ceredigion i godi premiymau treth gyngor ail gartrefi y sir i 100%.
Bydd y cynnydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2024 - a chynnydd pellach i 150% y flwyddyn ganlynol.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, a ddenodd dros 1,400 o ymatebion.
Ar hyn o bryd mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar ail gartrefi ac eiddo gwag, tra bod gan awdurdod cyfagos Sir Benfro premiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi.
Mae rheolau treth leol newydd Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i awdurdodau lleol fod yn casglu premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar hyd at 300%.
O ran eiddo gwag, mae Cyngor Ceredigion wedi cytuno i godi’r dreth i:
O ran ail gartrefi, bydd y dreth bresennol o 25% yn cynyddu i 100% o 1 Ebrill ymlaen a 150% y flwyddyn ganlynol.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori, trafod a chasglu tystiolaeth.
"Rwy’n ffyddiog y bydd y newid yn gam cadarnhaol ymlaen i fynd i’r afael ag eiddo gwag hirdymor, gyda’r gobaith o sicrhau bod cyflenwad da o dai ar gael ar y farchnad ar gyfer ein pobl leol."
Ychwanegodd: "Mae’r premiwm ar ail gartrefi hefyd yn adleisio cyfraddau tebyg mewn siroedd cyfagos, gan olygu na fyddai Ceredigion yn dod yn eithriad o ran cyfraddau isel ar hyd arfordir Cymru."
Mae ardaloedd sydd â'r gyfran uchaf o ail gartrefi yn y sir yn rhai arfordirol yn bennaf.
Yr uchaf yw Cei Newydd, gyda chyfradd o 27.2%, ac yna Llangrannog 17.1% Borth 14.1%, Pontarfynach 11%, Penbryn 9.6%, Aberaeron 9.1% ac Aberporth 8.4%.
Roedd eiddo gwag hirdymor ar ei fwyaf mewn ardaloedd mwy trefol: Aberporth 2.2%, Aberystwyth 1.8%, Aberteifi 1.5%, a Llandysul 1.5%.
Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, roedd dros 1,400 o bobl wedi ymateb.
Roedd ychydig dros hanner y rheiny ddim yn berchen ar ail gartref, ond yn credu bod cynnydd yn briodol, gan ffafrio cynnydd i 100%, neu hyd yn oed 150%.
Nid oedd 94% o berchnogion ail gartrefi am weld cynnydd.