Galw am ganslo cynllun gorsaf radar Sir Benfro

Disglau radarFfynhonnell y llun, US Space Force
Disgrifiad o’r llun,

Dysglau tebyg i'r rhai yma fyddai'n cael eu hadeiladu ar Faracs Cawdor

  • Cyhoeddwyd

Mae is-gadeirydd yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND) yng Nghymru wedi galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i ganslo cynlluniau i godi gorsaf radar ddadleuol ar gyfer y gofod yn Sir Benfro.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn ydy codi 27 o ddysglau radar ar safle presennol Baracs Cawdor fel rhan o gynllun DARC, sy'n bartneriaeth gyda llywodraethau'r Unol Daleithiau ac Awstralia o dan gytundeb AUKUS.

Yn ôl Jill Evans o CND Cymru, fe fydd y cynllun yn cael "effaith ofnadwy" ar y gymuned leol a Chymru.

Cafodd safle Breudeth ei chlustnodi fel yr un sydd yn cael ei ffafrio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhrydain nôl ym mis Rhagfyr.

Does yna ddim cais cynllunio wedi ei gyflwyno eto, ond mae adroddiad cychwynnol wedi cael ei anfon at Gyngor Sir Penfro, fydd yn ymdrin â'r cais.

Ffynhonnell y llun, PARC
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr PARC wedi gwneud y darlun yma o sut maen nhw'n dweud y byddai'r safle yn edrych

Fe fydd y dysglau radar ar gyfer DARC yn 20 metr o uchder a 15 metr o led.

Bwriad cynllun DARC - Deep Space Advanced Radar Capability - ydy cadw golwg ar loerennau a gwrthrychau eraill yn y gofod, ac adnabod bygythiadau posib i ddiogelwch.

Mae disgwyl i'r safle DARC cyntaf, sy'n cael ei adeiladu yn Awstralia, fod yn barod erbyn 2026, gyda phob un o'r tri safle yn weithredol erbyn 2030.

Bydd y dechnoleg newydd yn medru darganfod gwrthrychau o faint pêl-droed, rhyw 22,000 o filltiroedd i ffwrdd yn y gofod.

Ar hyn o bryd, mae safle Breudeth yn gartref i Gatrawd Signal 14, ond fe fyddan nhw yn gadael eu cartref yn Sir Benfro yn 2028.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud y gallai'r safle radar newydd greu 100 o swyddi hir dymor.

Fis Rhagfyr y llynedd, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai DARC yn medru "darganfod bygythiadau posib i systemau amddiffyn a sifil yn y gofod" tra'n rhoi "hwb i'r diwydiant gofod".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jill Evans fe fydd y cynllun yn cael "effaith ofnadwy" ar y gymuned leol a Chymru

Mae is-gadeirydd CND Cymru, Jill Evans, wedi ymosod ar y cynllun, gan alw ar bwy bynnag fydd mewn grym yn San Steffan wedi'r etholiad cyffredinol i ganslo'r cynllun yn llwyr.

"'Da ni eisiau codi ymwybyddiaeth pobl a chefnogi'r ymgyrch leol er mwyn canslo'r cynllun yma yn gyfan gwbl," meddai.

"Does dim angen hyn. Bydd e ddim yn diogelu ni fel Cymry. I'r gwrthwyneb.

"Mae'n hollol annerbyniol i edrych ar y gofod a rheoli'r gofod. Ni eisiau adeiladu Cymru wahanol a chenedl heddwch.

"Bydd yr effaith weledol ar Sir Benfro yn ofnadwy, ac mae yna bryderon am iechyd pobl."

Disgrifiad o’r llun,

"Da ni ddim eisiau hwn unrhyw le ym Mhrydain," meddai Roy Jones

Nid dyma'r tro cyntaf mae yna frwydr wedi bod yn lleol am greu gorsaf radar ym Mreudeth.

Fe drechwyd cynlluniau blaenorol ym 1991 yn dilyn ymgyrch fywiog gan bobl leol.

Mae Roy Jones o Dre-groes unwaith eto yn rhan o'r ymgyrch, ar ôl bod y rhan o'r frwydr ar ddiwedd y Rhyfel Oer hefyd.

"Mae'r ymgyrch yn tyfu. Mae'r pryderon iechyd yn ymwneud ag ymbelydredd sydd ynghlwm gyda thonfeddi radio," meddai.

"O gwmpas mastiau teledu a radio mae yna dystiolaeth bod yna gynnydd mewn achosion o ganser ymhlith pobl sydd yn byw o'u cwmpas nhw.

"Fe fydd y radar yma yn llawer mwy pwerus. 'Da ni ddim eisiau hwn unrhyw le ym Mhrydain."

Disgrifiad o’r llun,

"Y peth pwysig yw nad oes yna effaith ar iechyd y cyhoedd," meddai'r Cynghorydd Mark Carter

Yn ôl y cynghorydd lleol, Mark Carter, mae angen sicrwydd nad oes perygl i iechyd ac y bydd y swyddi sydd yn cael eu haddo yn rhai i bobl yr ardal.

"Y peth pwysig yw nad oes yna effaith ar iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid iddo fod yn ddiogel, ac rwy eisiau ymrwymiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ei fod e'n ddiogel," meddai.

"Rwy eisiau gweld hefyd sut y bydd yn effeithio ar y tirlun. Maen nhw yn dweud y bydd yna 100 o swyddi.

"Fe hoffwn i weld pobl leol yn cael blaenoriaeth ar gyfer y swyddi.

"Os gallwn ni gadw presenoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn yma, yna dwi'n gobeithio y bydd rhywbeth arall yn cael ei wneud yn y baracs.

"Rwy'n poeni am adroddiadau negyddol yn y wasg a dw’i ddim yn siŵr ble mae'r wybodaeth wedi dod i gefnogi'r honiadau.

"Fe hoffwn i glywed gan yr ymgyrchwyr ble mae'r wybodaeth wedi dod."

Disgrifiad o’r llun,

"Fe fyddai'n weladwy ac yn tanseilio'r harddwch naturiol a'r hanes ysbrydol," meddai'r Parchedig William Owen

Roedd y Parchedig Wiliam Owen o bentref Caerfarchell ger Breudeth hefyd yn gwrthwynebu'r cynllun diwethaf, ond mae'n cyfaddef bod y cais diweddaraf yma yn fater mwy cymhleth.

"Beth oedd o'n plaid ni ym 1991 oedd bod y perygl y Rhyfel Oer yn tawelu.

"Ni wedi sylweddoli o'r rhyfel yn Wcráin a nifer o bethau eraill nad yw'r perygl mor dawel ag y buodd e.

"Mae yna bryderon. Os edrychwch chi o gwmpas yr ardal hon fe welwch chi harddwch byd natur ac ymdrech i gynnal yr harddwch. Ni'n byw mewn perl o ran y tirlun y byd.  

"Fe fyddai'n weladwy ac yn tanseilio'r harddwch naturiol a'r hanes ysbrydol. Mae'r lle yn destun pererindod. Dyma ardal Dewi Sant.

"Bydd rhaid edrych yn ofalus ar beth sydd yn datblygu yn filwrol yn y gofod.

"Yn gyffredinol, mi fydden ni yn dweud bod y dafol yn mynd yn erbyn y cynllun."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gwir angen y data byddai'r radars yma rhoi i ni," meddai Dr Bleddyn Bowen

Un o'r prif resymau am yr angen i gadw golwg ar wrthrychau yn y gofod ydy'r bygythiad o gyfeiriad Rwsia a China.

Yn ôl Dr Bleddyn Bowen, arbenigwr ar ryfel yn y gofod o Brifysgol Caerlŷr, mae'r dechnoleg newydd yn hollbwysig.

"Mae'r safleoedd radar yma yn adeiladu llun gwell o beth sydd yn digwydd yn y gofod," meddai.

"Mae dros 8,000-9,000 o loerennau yn darparu pob math o gyfleusterau a gweithgareddau i ni nawr o ran yr economi, diogelwch a defnydd milwrol.

"Mae cael gwell llun a dealltwriaeth o beth mae pawb yn gwneud yn y gofod yn hynod o bwysig.

"Mae gwir angen y data byddai'r radars yma rhoi i ni o ran edrych ar y traffig o beth sydd yn digwydd yn y gofod."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol a chais cynllunio llawn cyn y bydd modd cael caniatâd i godi'r dysglau radar newydd

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am fwy o wybodaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am y cynllun, tra bod Plaid Cymru yn dweud y bydd y prosiect yn cael "effeithiau negyddol aruthrol" ar y gymuned. Mae Llafur hefyd wedi cael cais am sylw.

Doedd Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddim am wneud unrhyw sylw.

Doedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim yn medru gwneud sylw oherwydd y cyfnod etholiadol.

Bydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol a chais cynllunio llawn cyn y bydd modd cael caniatâd i godi'r dysglau radar newydd.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Solfach ar 27 Mehefin i drafod effaith bosib cynllun DARC ar y sir.