Apêl heddlu wedi ymosodiad rhyw difrifol yn Llanelli

Ymosodiad rhyw LlanelliFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio am gymorth i adnabod person mewn lluniau camerâu cylch cyfyng

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am ddyn a allai fod o gymorth wrth ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol yn Llanelli.

Digwyddodd yr ymosodiad ar John Street Lane rhwng hanner nos a 01:30 ar ddydd Llun 1 Ebrill, oedd yn ŵyl banc y Pasg.

Mae'r heddlu'n apelio am gymorth i adnabod person mewn lluniau camera cylch cyfyng, a allai fod â gwybodaeth allai fod o gymorth gyda'r ymholiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod 23000849278.

Pynciau cysylltiedig