Amheuon am gynllun trydanu rheilffordd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae amheuon wedi codi ynghylch cynllun gwerth £1bn i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru gan nad oes cytundeb i'w gyllido na sêl bendith swyddogol gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cynllun yn rhan ganolog o faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol, a gafodd ei lansio ddydd Gwener.
Ond mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod y cynllun "yn mynd i nunlle" gan nad yw Network Rail wedi derbyn llythyr gorchwyl eto gan yr Adran Drafnidiaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn yn ystod y digwyddiad lansio ym Mae Cinmel, Sir Conwy, dywedodd y Prif Weinidog, Rishi Sunak y byddai'r cynllun trydaneiddio "yn digwydd".
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
Fe gafodd y cynllun trydanu ei gyhoeddi gan Mr Sunak fis Hydref y llynedd, ac roedd yna addewid "cadarn" gan un o'i weinidogion i'w wireddu.
Fe fyddai'n cael ei gyllido yn sgil canslo'r cynllun rheilffordd cyflym HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.
Ond dyw National Rail dal heb dderbyn y llythyr angenrheidiol gan yr Adran Drafnidiaeth sy'n cadarnhau bod arian ar gael a bod modd symud ymlaen gyda'r cynllun.
Dydy seilwaith y rheilffyrdd ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli felly Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano, nid Llywodraeth Cymru.
'Arian ar gael'
Wrth ymateb i gwestiwn gan BBC Cymru ynglŷn â pham nad oes llythyr wedi ei anfon at Network Rail, dywedodd Mr Sunak: "Ry'n ni'n edrych ymlaen yn arw at gyflawni cynllun trydanu gogledd Cymru.
"Maen rywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig, fy nghydweithwyr, wedi bod yn ei drafod ers cryn amser."
Ychwanegodd fod penderfyniad ei lywodraeth i addasu cynllun HS2 yn golygu bod "arian ar gael i fuddsoddi £1bn yn y cynllun trydaneiddio".
Mae cwestiynau wedi codi hefyd a fyddai biliwn o bunnau yn ddigon ar gyfer y cynllun.
Yn ôl ffynonellau o fewn y diwydiant, fe fyddai angen £500m yn rhagor, ac mae Ysgrifennydd Cymru wedi cydnabod y gallai gostio mwy.
Y gred yw bod cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid wedi digwydd yn gynharach eleni, ond nad oedd unrhyw gynnydd wedi bod ers hynny.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Network Rail am ymateb.