Trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn sgil cwtogi HS2

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ar 4 Hydref
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Rishi Sunak y cyhoeddiad am ddyfodol y cynllun yng nghynhadledd y Ceidwadwyr

Bydd £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, meddai Llywodraeth y DU.

Mae hynny yn sgil penderfyniad y Prif Weinidog Rishi Sunak i gael gwared ar y cyswllt rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd y gogledd, ond eu bod yn amau'r costau a ddyfynnwyd.

Wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, dywedodd Mr Sunak y bydd "pob ceiniog" sy'n cael ei arbed o ganslo ail gymal HS2 - £36bn meddai - yn cael ei wario ar brosiectau trafnidiaeth ar draws y DU.

Dywedodd Mr Sunak fod y "ffeithiau wedi newid" ar HS2 ac mai'r "peth iawn i'w wneud pan fydd y ffeithiau wedi newid yw bod yn ddigon dewr i newid cyfeiriad".

Dywedodd y bydd "pob rhanbarth y tu allan i Lundain yn derbyn yr un buddsoddiad neu fwy nag y bydden nhw wedi'i wneud o dan HS2, gyda chanlyniadau cyflymach".

'Datgloi potensial'

Yn ddiweddarach, cadarnhaodd Ysgrifennydd Cymru y byddai'r rheilffordd "gyfan" yn cael ei thrydaneiddio gyda'r £1bn - o Gaergybi i Crewe.

Ychwanegodd David TC Davies: "Bydd y cyhoeddiad heddiw yn datgloi potensial unigryw gogledd Cymru drwy drawsnewid ei heconomi a'i seilwaith.

"Ers yn rhy hir mae pobl gogledd Cymru wedi cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru Lafur anghymwys ym Mae Caerdydd - ond mae Llywodraeth y DU yn cywiro hynny.

"O dan y Ceidwadwyr, mae gogledd Cymru yn cael y sylw y mae'n ei haeddu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan gyntaf y cynllun wrthi'n cael ei hadeiladu, ond ni fydd yr ail ran yn mynd yn ei blaen

Pan ofynnwydd iddo sut allai'r cyhoedd fod â hyder yn yr addewid ar ôl i gynllun tebyg i'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe gael ei ganslo, dywedodd ei fod yn "ymrwymiad plaen, clir".

"A phan mae Rishi'n gwneud addewid, allwch chi fod yn gwbl sicr y bydd yn ei wireddu."

'Dim syniad o'r gost'

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters, fod y gost £1bn a nodwyd gan weinidogion y DU yn ffigwr "bys yn yr awyr".

Dywedodd Mr Waters nad oedd neb wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y prosiect.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd nad oedd y prosiect "yn agos i frig y rhestr" o flaenoriaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Wrth siarad yn y Senedd, meddai: "Bydd yn cymryd o leiaf 10 mlynedd a hyd y gwyddom nid oes unrhyw waith datblygu wedi'i wneud ar hyn o gwbl."

"Does gennym ni ddim syniad o'r gost. Mae biliwn o bunnoedd wedi'i ddyfynnu, mae hwn yn ffigwr bys yn yr awyr a does gen i ddim syniad o ble mae hynny wedi dod."

'Briwsion i Gymru'

Ond ymatebodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: "Rheilffyrdd cyflym i Lundain, briwsion i Gymru.

"Dywedir bod trydaneiddio prif lein gogledd Cymru yn derbyn tua £1bn.

"Ni fydd Plaid Cymru yn derbyn bod yr addewid hwn yn disodli'r mwy na £2bn y dylai Cymru fod wedi'i gael eisoes yn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer cam cyntaf HS2."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rishi Sunak fod £36bn wedi'i arbed trwy gefnu ar ail gymal HS2

Mae dyfodol HS2 wedi hawlio'r penawdau ers dechrau cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.

Gyda chostau'r prosiect yn codi, dywedodd Mr Sunak y bydd ystod o brosiectau amgen yng ngogledd Lloegr a Chymru, gan ddadlau eu bod yn cynrychioli gwell defnydd o arian cyhoeddus ac y gellir eu cyflawni'n gynt.

Cyn y cyhoeddiad brynhawn Mercher, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, fod HS2 o safbwynt Cymreig wedi bod yn "dipyn o ffars".

O dan y cynlluniau gwreiddiol fe gafodd teithwyr o ogledd Cymru addewid o deithiau cyflymach i Lundain oherwydd gorsaf HS2 yn Crewe.

Dyma'r rheswm am ddynodi'r prosiect yn un i Gymru a Lloegr.

Bwriad prosiect HS2 oedd creu cysylltiadau rheilffordd cyflym rhwng Llundain a dinasoedd mawr yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.

Y nod yw gostwng amseroedd teithio, creu mwy o le ar y rhwydwaith rheilffyrdd a mwy o swyddi y tu allan i Lundain.

Ond mae'r prosiect wedi wynebu oedi, costau uwch a thoriadau, ac yn 2021 fe wnaeth y llywodraeth ddileu'r cymal i Leeds.

Dadansoddiad Gareth Lewis - golygydd gwleidyddol BBC Cymru

Mae gan Gymru rywbeth, a hithau wedi cael dim byd o'r blaen, ac yn awr mae ganddi rywbeth a allai neu na allai fod cystal â'r hyn y teimlai y dylai fod wedi'i gael.

Mae HS2 yn swyddogol yn brosiect Cymru a Lloegr, oedd yn cael ei gyfiawnhau gan deithiau cyflymach trwy Crewe.

Ond ni fyddai Cymru wedi cael milimedr o drac cyflym. Ac roedd yn golygu bod Cymru'n colli cyllid cyfatebol, fel sy'n digwydd pan fo prosiect yn cael ei ddynodi ar gyfer Lloegr yn unig.

Gallai fod wedi bod cymaint â £5bn.

Nawr mae gan Gymru addewid o £1bn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, er ar hyn o bryd nid oes amserlen wedi'i chadarnhau.

Mae mawr ei angen ac mae galw mawr amdano, a dylai olygu gwasanaethau cyflymach, glanach ac amlach.

A fydd hyn yn taro tant â phleidleiswyr a busnesau mewn rhan o'r byd lle bydd saith sedd yn cael eu hymladd yn frwd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf?

'Dydi o ddim am ddigwydd dros nos'

Mae'r darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Thomas Jones, yn cwestiynu os mai dyma'r defnydd gorau o arian cyhoeddus prin.

"Mae o'n gyhoeddiad reit ryfedd heddiw o safbwynt economaidd... a'r cwestiwn mawr sydd gen i yw a fysa ni'n gallu buddsoddi'r arian yma mewn rhannau eraill o Gymru yn well, i gael mwy o effaith economaidd yn hytrach nag yma yn y gogledd," meddai.

"O feddwl am y rheilffyrdd sy'n cysylltu efo Aberystwyth er enghraifft. A fysa hi'n well gweld ni'n buddsoddi'r arian yn y llefydd yna, a chael mwy o effaith economaidd? Felly o ystyried hynny yn sicr 'da ni ar ein colled."

Disgrifiad,

Mae 'na eironi yng nghyhoeddiad trydaneiddio rheilffordd y gogledd, meddai Iwan Prys Jones

Ar raglen Newyddion S4C, dywedodd Iwan Prys Jones, sy'n arbenigo mewn strategaeth trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, bod yna nifer o gwestiynau yn parhau ynglyn â'r cyhoeddiad.

"Mae o'n newyddion da ar un lefel, bod y lein am gael ei drydaneiddio. Mae 'na dros ddegawd o frwydro wedi bod o blaid trydaneiddio'r lein," meddai.

"Ond yn amlwg rwan mae'n codi cwestiynau ynglŷn â faint o waith sy wedi digwydd y tu cefn i'r cyhoeddiad, pa bryd wneith o ddigwydd, beth fydd y gost derfynol a pha mor gyflym da ni'n mynd i weld trenau newydd yn rhedeg ar y lein.

"'Da ni wedi gweld nifer o gyhoeddiadau yn y gorffennol...ac mae'r rheini wedi cael eu stopio. Un o'r problemau ydi, mae 'na nifer flynyddoedd o waith sydd angen digwydd i ddylunio'r gwaith a pharatoi ar gyfer trydaneiddio.

"Dydi o ddim yn mynd i ddigwydd dros nos. Dwi'n meddwl bo' ni'n sôn am bum mlynedd neu fwy cyn y gwelwn ni unrhyw waith trydaneiddio ar y lein, ac mae 'na lot yn gallu digwydd mewn pum mlynedd."