O'r Bala i China: 'Byddai Dad wedi deud dos amdani'

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Teleri Wyn Davies yn treulio blwyddyn yn chwarae a hyfforddi rygbi yn Shenzhen

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi merched Cymru yn dweud ei bod yn edrych ymlaen yn arw at gael mynd i chwarae a hyfforddi'r gamp yn China.

Mae Teleri Wyn Davies, y chwaraewr ail-reng 27 oed o'r Bala, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â thîm Shenzhen Pirates ym mis Medi.

Mewn cyfweliad â rhaglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, fe ddisgrifiodd hi'r cyfle fel un "unwaith mewn bywyd".

Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala.

Dywedodd y cyn-glo, sydd wedi chwarae i dimau Caernarfon, Rygbi Gogledd Cymru, Sale Sharks a Chymru, ei bod wedi ystyried ymddeol o'r gamp cyn i'r gwahoddiad ddod o'r dwyrain pell.

Fe ddeilliodd hynny o daith y llynedd i Amsterdam i chwarae mewn twrnament yno fel aelod o garfan y Penguins - tîm elusennol o chwaraewyr rhyngwladol "sy'n hybu datblygiad rygbi ac ewyllys da at y gamp ar draws y byd".

"'Chydig fisoedd ar ôl dod adra ddoth 'na e-bost yn gofyn a oedd gen i ddiddordeb mynd allan i China i chwara'," meddai Teleri.

"Ar y pryd doedd o ddim yn rwbeth o'n i isio'i 'neud felly nes i ddim ymateb."

Ond pan gyrhaeddodd ail wahoddiad ychydig fisoedd yn ôl, fe benderfynodd Teleri i ymateb y tro hwn a "gweld sut eith petha'".

Ffynhonnell y llun, Omega
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Teleri ddim eisiau edrych yn ôl a difaru gwrthod cyfle "unwaith mewn oes"

"Dwi'n meddwl bo' fi 'di cyrra'dd ryw bwynt yn fy mywyd lle 'dw i 'di llwyddo i basio fatha cyfreithwraig a 'dw i'n meddwl bod 'na fwy i fywyd na mynd i'r gwaith a dod adra.

"Ma' 'na fwy i'r byd 'ma na gogledd Cymru a ma' bob dim yma sy' gynna' i adra [yn] betha fedrith ddisgw'l amdana i pan ddoi'n ôl - petha' fedra' i droi'n ôl atyn nhw.

"Ac ma' hyn yn brofiad unwaith mewn bywyd... 'sa'n well gen i ddifaru bo' fi'n mynd a rhoi go arna hi na ista yn yr un lle â 'dw i rŵan mewn blwyddyn yn meddwl 'be os fyswn i wedi mynd? Lle fyswn i rŵan?'"

'Newid byd i hogan cefn gwlad fel fi'

Yn Shenzhen, fe fydd Teleri yn hyfforddi'r tîm merched mewn un gynghrair ac yn chwarae i dîm Hong Kong Scottish mewn cynghrair arall.

"'Dw i'n meddwl bod nhw'n trio ca'l rygbi i fod yn fwy poblogaidd ac o safon uwch allan yna ar y funud," meddai.

"Felly 'dw i'n edrych ymlaen at ga'l gweld sut ma'n nhw'n chwara' rygbi allan yn fan'no a be' fydd y safon o gymharu â gogledd Cymru, Premiership Lloegr ac yn y blaen."

Ffynhonnell y llun, Omega
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri yn credu y bydd y profiad yn "agoriad llygad" iddi

"Ffeindio 'nhraed a ffeindio'n ffordd o gwmpas" fydd y flaenoriaeth ar ôl cyrraedd China ddiwedd Awst.

Fe fydd Teleri hefyd yn dysgu mewn ysgol o ddydd Llun tan ddydd Gwener, "sydd yn mynd i fod yn hollol, hollol wahanol i be' 'dw i'n 'neud rŵan".

Maes o law, ar ôl setlo, mae hi'n gobeithio ceisio cael swydd yn y maes cyfreithiol.

Dywed y bydd byw yn Shenzhen, sydd â phoblogaeth fwyaf y wlad oni bai am ddinasoedd Shanghai a Beijing, "yn newid byd i hogan cefn gwlad fel fi... 'dw i'n meddwl fydd o'n agoriad llygad mawr i fi".

'Fysa fo'n falch iawn ohonaf fi'

Dywedodd Teleri nad yw'n hollol siŵr sut fyddai ei thad wedi ymateb i'w phenderfyniad pe bai'n dal yn fyw.

"'Dw i'n meddwl 'sa fo'n d'eud bo fi angen testio 'mhen ella! Ond 'dw i'n meddwl hefyd 'sa fo'n meddwl yr un fath â fi.

"Cyfnod byr iawn ydi blwyddyn neu ddwy - neu hyd yn oed os 'dw i'n aros yn hirach - mewn bywyd rhywun.

"'Dan ni'n gw'bod efo be' sy' wedi digwydd i Dad, 'dach chi methu cym'yd bywyd yn ganiataol a 'dw i'n meddwl fysa fo yn deu' 'tha fi 'unrhyw gyfle ti'n ga'l, cym'a fo efo'r ddwy law a dos amdani'.

"'Dw i'n meddwl fysa fo'n falch iawn ohona fi am gymryd risg reit fawr, ac i fynd allan yna a ca'l gweld be' arall sydd yn y byd."