Tad allai waedu i farwolaeth unrhyw bryd yn diolch i roddwyr gwaed
- Cyhoeddwyd
Mae Alberto Almeida yn trysori pob diwrnod gyda'i deulu, achos mi allai waedu i farwolaeth ar unrhyw adeg oherwydd salwch prin.
Trallwysiadau gwaed sydd wedi achub ei fywyd dwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hynny ar ôl dioddef gwaedlif difrifol yn sgil tiwmor sy'n agos at rai o'i brif rydwelïau.
"Y bobl sy'n haeddu medal yw'r bobl sy'n rhoi gwaed. Nhw yw'r arwyr go iawn - a doctoriaid - achos nhw sy'n achub bywydau," meddai Alberto.
Mae ei deulu eisiau annog mwy o bobl i roi gwaed, gydag un peint yn medru achub hyd at dri bywyd.
Roedd y Sbaenwr 46 oed yn berson iach a heini meddai ei deulu.
Roedd yn weithiwr ar y ffyrdd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, ac yn chwarae pêl-droed dwywaith yr wythnos.
Ond yn 2022 fe gwympodd yn sal yn weddol sydyn.
Dangosodd profion bod gan Alberto diwmor ar ei dwodenwm, uwchben ei goluddyn bach. Oherwydd bod y tiwmor wedi'i glymu o amgylch rhai o'i brif rydwelïau hefyd mae llawdriniaeth i'w symud yn rhy beryglus.
Ym mis Awst y llynedd ac eto yn Chwefror eleni, cafodd waedlif difrifol a bu'n rhaid i'w deulu paratoi ar gyfer y newyddion gwaethaf.
"Mae'n anodd iawn ceisio esbonio sut wyt ti'n teimlo achos mae dy holl fywyd yn symud trwy dy feddwl mewn eiliadau.
"Ti'n pryderu am dy deulu yn fwy na dy hun," meddai Alberto.
Wrth i Alberto orwedd yn yr ysbyty, roedd ei deulu'n gwylio ac yn paratoi i ddweud hwyl fawr am y tro olaf.
Ond wrth i waed ffres gael ei bwmpio'n ôl i'w gorff, fe gryfhaodd gyda phob chwistrelliad.
Dywedodd ei wraig, Sarah Davies, bod yr hyn ddigwyddodd yn "anhygoel".
"Rwyt ti'n dweud hwyl fawr a'r holl bethau yma ti'n disgwyl gorfod dweud yn ystod y munudau olaf ac yna'n sydyn dyma fe'n dechrau cryfhau o flaen dy lygaid."
Mae'r teulu yn eisiau annog rhagor o bobl i roi gwaed, a chodi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod modd gwneud hynny ar ôl troi'n 17 oed.
Dysgu gyrru sydd ar flaen meddwl llawer o bobl wrth droi'n 17, ond i ferch Alberto, Lucia, rhoi gwaed oedd ei blaenoriaeth ar ôl profiad ei thad.
"Dwin credu rhoi gwaed yw un o'r pethau mwyaf pwysig gallech chi wneud wrth droi'n 17, felly mae angen i bobl sylweddoli hyn," meddai.
I'w brawd, Eliott, doedd rhoi gwaed ddim yn rywbeth yr oedd erioed wedi ystyried o'r blaen cyn salwch ei dad.
"Rydyn ni mor lwcus bod pobl yn rhoi gwaed achos mae hynny wedi galluogi ni i gael mwy o amser gyda dad."
Dywedodd Gwasanaeth Gwaed Cymru fod stori Alberto yn enghraifft o ba mor bwysig yw rhoddion gwaed i unigolion a'u teuluoedd.
Dywedodd eu cyfarwyddwr meddygol, Dr Edwin Massey: "Mae gwaed yn arbed bywydau pobl neu’n gwella ansawdd bywydau pobl, felly mae’n hanfodol ein bod ni'n gallu darparu digon o gydrannau gwaed i gleifion Cymru.
"Mae’r broses o roi yn ddiogel iawn a phan ddaw rhywun i roi gwaed, rydyn ni'n gofyn nifer helaeth o gwestiynau am eu hiechyd er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddyn nhw roi ac yn ddiogel i’r rhai sy’n derbyn y gwaed.
"Unwaith y bydd y gwaed wedi’i roi, mae’n cael ei brofi am wahanol afiechydon gan gynnwys HIV a hepatitis."
Ychwanegodd bod gwasanaethau gwaed ar draws y byd yn wynebu her anferthol i geisio ymateb i'r galw am waed.
Yng Nghymru, mae angen casglu 100,000 o becynnau gwaed bob blwyddyn, ac mae Dr Massey yn annog unrhyw un - os ydyn nhw wedi gwneud o'r blaen neu beidio - i helpu.
Yn ôl Sarah Davies, mae'r teulu'n ddiolchgar iawn i bob un sy'n rhoi gwaed, ac mae hi'n cyfaddef ei bod hi bob amser yn annog eraill i wneud yr un peth.
"Mae Alberto angen y gwaed, ac os dyw e ddim yn ei gael, dwi'n ei golli fe."