Y cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw

Gwenda GriffithFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw yn 82 oed.

Bu'n un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am ddegawdau ac roedd hi'n un o'r cynhyrchwyr benywaidd cyntaf.

Sefydlodd y cwmni Fflic yn 1982 a bu'n gyfrifol am ddod â rhaglenni fel 04 Wal, Y Tŷ Cymreig a Cwpwrdd Dillad i S4C.

Yn ogystal â rhaglenni am dai a'u harddull bu hefyd yn gyfrifol am nifer o raglenni i ddysgwyr - fel Welsh in a Week a Cariad@iaith - a rhaglenni i blant fel Stwffio, Nics Nain a Hip neu Sgip?

'Gweledigaeth bendant'

"Hi a fy nghyflwynodd gyntaf i fyd teledu," medd y gyflwynwraig Nia Parry wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roeddwn i newydd gyrraedd y brifddinas oddeutu 2000 ac yn diwtor Cymraeg yn y Brifysgol ac wedi iddi ddod i'm gweld yn dysgu cefais gynnig cyflwyno Welsh in a Week - fe arweiniodd hynny at gyflwyno Cariad at Iaith a Cwpwrdd Dillad.

"Roedd gan Gwenda weledigaeth bendant ac roedd yna ffasiwn raen ar ei gwaith hi - roedd ei safonau cynhyrchu hi yn hynod o uchel ac fe ddysgais i lawer ganddi.

"Roedd hi'n gwbl fanwl a threfnus gyda ffeil i bob cynhyrchiad ond pobl, wrth gwrs, oedd yn bwysig iddi ac wrth wraidd pob rhaglen.

"Fe fyddai ffasiwn a steil, wrth gwrs, yn dod yn naturiol iddi.

"Mi fyddai hi'n dyrchafu pobl. I ni griw ifanc roedd hi'n fwy na bòs - roedd hi'n fentor, yn arweinydd ac yn ein hannog ni i weithio'n galed fel hi.

"Roedd ganddi'r ddawn i weld eich cryfderau - a falle bo chi ddim yn gwybod bod nhw yna. Mae'r ffaith ei bod hi dal yn ffrind i ni yn deud llawer."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gwenda weledigaeth bendant ac roedd yna ffasiwn raen ar ei gwaith hi, meddai Nia Parry

Yn ddiweddarach fe ddaeth Fflic yn rhan o gwmni Boom a Gwenda Griffith oedd yn gyfrifol am y gyfres Caeau Cymru a gynhyrchwyd gan y cwmni hwnnw.

"Pwy fyddai'n meddwl y byddai modd cyflwyno cyfres mor hardd am gaeau Cymru?" ychwanegodd Nia Parry.

"Rhaid cofio am ei chyfraniad hefyd dros yr iaith - roedd hi mor awyddus i gyflwyno Cymraeg graenus a chlir i ddysgwyr ac i blant."

'Talent amhrisiadwy'

Wrth roi teyrnged, dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C: “Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth Gwenda Griffith.

"Roedd yn un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am dros 30 mlynedd.

“Wedi sefydlu cwmni Fflic, gosododd stamp a steil unigryw ei hun ar y sianel gan gynhyrchu cyfresi tai poblogaidd 04 Wal ac Y Tŷ Cymreig, a oedd yn adlewyrchu ei hangerdd am bensaernïaeth a chyfresi yn annog dysgwyr Cymraeg, fel Cariad@iaith.

“Roedd ei thalent yn amhrisiadwy ac mi fydd colled fawr ar ei hôl. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gwenda, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad arbennig at waith S4C a dros ein gwylwyr dros nifer fawr o flynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Boom/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwenda Griffith yn gyfrifol am nifer o raglenni i ddysgwyr, fel Cariad@Iaith

Roedd Gwenda Griffith yn parhau yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Huw Jones: "Roedd Gwenda’n un o’r criw bach o bobl wnaeth fentro i sefydlu cwmniau teledu annibynnol yn y misoedd cynhyrfus hynny cyn i S4C fynd ar yr awyr.

"Fe fynnodd o’r cychwyn fod yna le i fod ar y sianel ar gyfer rhaglenni oedd yn dathlu diwyg, steil a safon ac fe ddangosodd dros y blynyddoedd sut oedd cyflwyno’r pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Roedd yr iaith Gymraeg ei hun yn bwysig iddi o’r cychwyn a buan y daeth yn gynhyrchydd ar gadwyn o gyfresi fu’n hyrwyddo a chefnogi ymdrechion dysgwyr o bob cefndir.

"Daeth hyn â hi i gysylltiad â Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn a derbyniodd wahoddiad i ddod yn aelod o’r Bwrdd yn 2014.

"Roedd yn parhau tan yr wythnosau olaf yn gyfrannwr llawn brwdfrydedd a syniadau gyda gweledigaeth glir ynglŷn â sut oedd sicrhau lle’r Nant yng nghanol y gwaith o ledaenu’r Gymraeg.

"Byddwn yn gweld colled enfawr ar ei hôl."

Cydnabod gwasanaeth arbennig

Bu Gwenda Griffith hefyd ar fwrdd y Theatr Genedlaethol, ar fwrdd Oriel Glyn y Weddw a sefydliadau eraill.

Yn 2012 fe gafodd ei hanrhydeddu gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth arbennig yn hybu pensaernïaeth.

Yn yr un flwyddyn cafodd ei derbyn i'r wisg las yng Ngorsedd y Beirdd.

Cafodd ei magu yng Nghorwen, ac fe aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae'n gadael gŵr Hugh, dau o blant - Dylan a Beca - ac un ŵyr, Sid.

Pynciau cysylltiedig